bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Kings 15
1 Kings 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 16 →
1
Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i'r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda.
2
Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.
3
Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o'i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r ARGLWYDD ei DDUW, fel calon Dafydd ei dad.
4
Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr ARGLWYDD ei DDUW iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem:
5
Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad.
6
A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes.
7
A'r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam.
8
Ac Abeiam a hunodd gyda'i dadau, a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
9
Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda.
10
Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.
11
Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad.
12
Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o'r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau.
13
Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.
14
Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd: eto calon Asa oedd berffaith gyda'r ARGLWYDD ei holl ddyddiau ef.
15
Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a'r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr ARGLWYDD, yn arian, yn aur, ac yn llestri.
16
A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.
17
A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.
18
Yna Asa a gymerodd yr holl arian a'r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision: a'r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,
19
Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a'th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.
20
Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali.
21
A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa.
22
Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladasai Baasa; a'r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa.
23
A'r rhan arall o holl hanes Asa, a'i holl gadernid ef, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o'i draed.
24
Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25
A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.
26
Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â'r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.
27
A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a'i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon.
28
A Baasa a'i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
29
A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad:
30
Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel.
31
A'r rhan arall o hanes Nadab, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
32
A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.
33
Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain.
34
Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22