bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Kings 13
1 Kings 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
1
Ac wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, trwy air yr ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu.
2
Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a'i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti.
3
Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr ARGLWYDD; Wele, yr allor a rwygir, a'r lludw sydd arni a dywelltir.
4
A phan glybu y brenin air gŵr DUW, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato.
5
Yr allor hefyd a rwygodd, a'r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr argoel a roddasai gŵr DUW trwy air yr ARGLWYDD.
6
A'r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr DUW, Gweddïa, atolwg, gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr DUW a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt.
7
A'r brenin a ddywedodd wrth ŵr DUW, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti.
8
A gŵr DUW a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon:
9
Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost.
10
Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel.
11
Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a'i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr DUW y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i'w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin.
12
A'u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A'i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr DUW, yr hwn a ddaethai o Jwda.
13
Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farchogodd arno.
14
Ac efe a aeth ar ôl gŵr DUW, ac a'i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr DUW, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi.
15
Yna efe a ddywedodd wrtho, Tyred adref gyda mi, a bwyta fara.
16
Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon.
17
Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr ARGLWYDD, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd‐ddi.
18
Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i'th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho.
19
Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.
20
A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd:
21
Ac efe a lefodd ar ŵr DUW yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr ARGLWYDD, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti,
22
Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.
23
Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodd iddo yr asyn, sef i'r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd.
24
Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a'i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a'i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a'r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a'r llew yn sefyll wrth y gelain.
25
Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi.
26
A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o'r ffordd, efe a ddywedodd, Gŵr DUW yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr ARGLWYDD: am hynny yr ARGLWYDD a'i rhoddodd ef i'r llew, yr hwn a'i drylliodd ef, ac a'i lladdodd ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef.
27
Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a'i cyfrwyasant.
28
Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn.
29
A'r proffwyd a gymerth gelain gŵr DUW, ac a'i gosododd hi ar yr asyn, ac a'i dug yn ei hôl. A'r hen broffwyd a ddaeth i'r ddinas, i alaru, ac i'w gladdu ef.
30
Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd!
31
Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr DUW ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef.
32
Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria.
33
Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o'i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i'r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a'i cysegrai ef, ac efe a gâi fod yn offeiriad i'r uchelfeydd.
34
A'r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i'w ddiwreiddio hefyd, ac i'w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22