bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Kings 3
1 Kings 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 4 →
1
A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd ferch Pharo, ac a'i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr ARGLWYDD, a mur Jerwsalem oddi amgylch.
2
Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr ARGLWYDD, hyd y dyddiau hynny.
3
A Solomon a garodd yr ARGLWYDD, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogldarthu.
4
A'r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solomon ar yr allor honno.
5
Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd DUW, Gofyn beth a roddaf i ti.
6
A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â'th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o'th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.
7
Ac yn awr, O ARGLWYDD fy NUW, ti a wnaethost i'th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn.
8
A'th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd.
9
Am hynny dyro i'th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?
10
A'r peth fu dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, am ofyn o Solomon y peth hyn.
11
A DUW a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:
12
Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.
13
A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o'th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.
14
Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a'm gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.
15
A Solomon a ddeffrôdd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i'w holl weision.
16
Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.
17
A'r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a'r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.
18
Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.
19
A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.
20
A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o'm hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a'i gosododd ef yn ei mynwes hi, a'i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau.
21
A phan godais i y bore i beri i'm mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe.
22
A'r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a'th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a'm mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.
23
Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a'th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a'm mab innau yw y byw.
24
A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin.
25
A'r brenin a ddywedodd, Rhennwch y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i'r naill, a'r hanner i'r llall.
26
Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef.
27
Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei fam ef.
28
A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb DUW ynddo ef i wneuthur barn.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22