bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Kings 22
1 Kings 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
1
A buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel.
2
Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel.
3
A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth‐Gilead, a'n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria?
4
Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i Ramoth‐Gilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.
5
Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr ARGLWYDD.
6
Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys yr ARGLWYDD a'i dyry hi yn llaw y brenin.
7
A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i'r ARGLWYDD mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?
8
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.
9
Yna brenin Israel a alwodd ar un o'i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura yma Michea mab Jimla.
10
A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a'r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.
11
A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.
12
A'r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth‐Gilead, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a'i dyry hi yn llaw y brenin.
13
A'r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i'r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y gorau.
14
A dywedodd Michea, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo yr ARGLWYDD wrthyf, hynny a lefaraf fi.
15
Felly efe a ddaeth at y brenin. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth‐Gilead, ai peidio? Dywedodd yntau wrtho, Dos i fyny, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a'i dyry hi yn llaw y brenin.
16
A'r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y'th dynghedaf di, na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD?
17
Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i'w dŷ ei hun mewn heddwch.
18
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni?
19
Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu'r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy.
20
A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn Ramoth‐Gilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn.
21
Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Myfi a'i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pa fodd?
22
Dywedodd yntau, Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly.
23
Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a'r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti.
24
Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?
25
A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.
26
A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;
27
A dywed, Fel hyn y dywed y brenin; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod mewn heddwch.
28
A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr ARGLWYDD ynof fi. Dywedodd hefyd, Gwrandewch hyn yr holl bobl.
29
Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead.
30
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i'r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i'r rhyfel.
31
A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
32
A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd.
33
A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.
34
A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o'r fyddin; canys fe a'm clwyfwyd i.
35
A'r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a'r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda'r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd.
36
Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un i'w ddinas, a phob un i'w wlad ei hun.
37
Felly y bu farw y brenin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria.
38
A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a'r cŵn a lyfasant ei waed ef: yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe.
39
A'r rhan arall o hanesion Ahab, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r tŷ ifori a adeiladodd efe, a'r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
40
Felly Ahab a hunodd gyda'i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
41
A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel.
42
Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Asuba, merch Silhi.
43
Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
44
A Jehosaffat a heddychodd â brenin Israel.
45
A'r rhan arall o hanes Jehosaffat, a'i rymustra a wnaeth efe, a'r modd y rhyfelodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
46
A'r rhan arall o'r sodomiaid a'r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a'u dileodd o'r wlad.
47
Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin.
48
Jehosaffat a wnaeth longau môr i fyned i Offir am aur: ond nid aethant; canys y llongau a ddrylliodd yn Esion‐Gaber.
49
Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i gyda'th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat.
50
A Jehosaffat a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
51
Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.
52
Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
53
Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd ARGLWYDD DDUW Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22