bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Amos 2
Amos 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 3 →
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.
2
Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn.
3
A mi a dorraf ymaith y barnwr o'i chanol hi, a'i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr ARGLWYDD.
4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr ARGLWYDD, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a'u celwyddau a'u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl.
5
Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.
6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a'r tlawd er pâr o esgidiau:
7
Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a'i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd.
8
Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.
9
Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o'u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a'i wraidd oddi tanodd.
10
Myfi hefyd a'ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a'ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad.
11
A mi a gyfodais o'ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o'ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr ARGLWYDD
12
Ond chwi a roesoch i'r Nasareaid win i'w yfed; ac a orchmynasoch i'ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch.
13
Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau.
14
A metha gan y buan ddianc, a'r cryf ni chadarnha ei rym, a'r cadarn ni wared ei enaid ei hun:
15
Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun.
16
A'r cryfaf ei galon o'r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9