bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Amos 9
Amos 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
1
Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â'r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango.
2
Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a'u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i'r nefoedd, mi a'u disgynnwn hwynt oddi yno:
3
A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o'm golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i'r sarff eu brathu hwynt:
4
Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i'r cleddyf, ac efe a'u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.
5
Ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd a gyffwrdd â'r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a'r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft.
6
Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a'u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw.
7
Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr ARGLWYDD: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a'r Philistiaid o Cafftor, a'r Syriaid o Cir?
8
Wele lygaid yr ARGLWYDD ar y deyrnas bechadurus, a mi a'i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD.
9
Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i'r llawr.
10
Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.
11
Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a'i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt:
12
Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a'r holl genhedloedd, medd yr ARGLWYDD, yr hwn a wna hyn.
13
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a'r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a'r holl fryniau a doddant.
14
A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a'u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o'u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt.
15
Ac mi a'u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o'u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD dy DDUW.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9