bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Amos 7
Amos 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 8 →
1
Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd.
2
A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, ARGLWYDD, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.
3
Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn, eb yr ARGLWYDD.
4
Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD DDUW i mi: ac wele yr ARGLWYDD DDUW yn galw i farn trwy dân; a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth.
5
Yna y dywedais, ARGLWYDD DDUW, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.
6
Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr ARGLWYDD DDUW.
7
Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn.
8
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.
9
Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â'r cleddyf.
10
Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i'th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef.
11
Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o'i wlad.
12
Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno:
13
Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.
14
Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:
15
A'r ARGLWYDD a'm cymerodd oddi ar ôl y praidd; a'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i'm pobl Israel.
16
Yr awr hon gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac.
17
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a'th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a'th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o'i wlad.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9