bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Amos 8
Amos 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 9 →
1
Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf.
2
Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach.
3
Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw.
4
Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir,
5
Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a'r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll?
6
I brynu y tlawd er arian, a'r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?
7
Tyngodd yr ARGLWYDD i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o'u gweithredoedd hwynt.
8
Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft.
9
A'r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW, y gwnaf i'r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau.
10
Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a'ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a mi a'i gwnaf fel galar am unmab, a'i ddiwedd fel dydd chwerw.
11
Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr anfonaf newyn i'r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr ARGLWYDD.
12
A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o'r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr ARGLWYDD, ac nis cânt.
13
Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a'r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched.
14
Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9