bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Amos 6
Amos 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 7 →
1
Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir yn bennaf o'r cenhedloedd, y rhai y daeth tŷ Israel atynt!
2
Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na'r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na'ch terfyn chwi?
3
Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais;
4
Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o'r praidd, a'r lloi o ganol y cut;
5
Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd;
6
Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â'r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.
7
Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda'r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir.
8
Tyngodd yr ARGLWYDD DDUW iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
9
A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw.
10
Ei ewythr a'i cyfyd i fyny, a'r hwn a'i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o'r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau, Taw; am na wasanaetha cofio enw yr ARGLWYDD.
11
Oherwydd wele yr ARGLWYDD yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr ag agennau, a'r tŷ bychan â holltau.
12
A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.
13
O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o'n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder?
14
Ond wele, mi a gyfodaf i'ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, genedl; a hwy a'ch cystuddiant chwi, o'r ffordd yr ewch i Hamath, hyd afon y diffeithwch.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9