bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Nehemiah 10
Nehemiah 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
A'r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia,
2
Seraia, Asareia, Jeremeia,
3
Pasur, Amareia, Malcheia,
4
Hattus, Sebaneia, Maluch,
5
Harim, Meremoth, Obadeia,
6
Daniel, Ginnethon, Baruch,
7
Mesulam, Abeia, Miamin,
8
Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr offeiriaid.
9
A'r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel;
10
A'u brodyr hwynt; Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan,
11
Micha, Rehob, Hasabeia,
12
Saccur, Serebeia, Sebaneia,
13
Hodeia, Bani, Beninu.
14
Penaethiaid y bobl; Paros, Pahath‐Moab, Elam, Sattu, Bani,
15
Bunni, Asgad, Bebai,
16
Adoneia, Bigfai, Adin,
17
Ater, Hisceia, Assur,
18
Hodeia, Hasum, Besai,
19
Hariff, Anathoth, Nebai,
20
Magpias, Mesulam, Hesir,
21
Mesesabeel, Sadoc, Jadua,
22
Pelatia, Hanan, Anaia,
23
Hosea, Hananeia, Hasub,
24
Halohes, Pileha, Sobec,
25
Rehum, Hasabna, Maaseia,
26
Ac Ahïa, Hanan, Anan,
27
Maluch, Harim, Baana.
28
A'r rhan arall o'r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a'r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith DDUW, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a'u merched, pawb a'r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo;
29
Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith DDUW, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas DUW: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr ARGLWYDD ein Harglwydd ni, a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau:
30
Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i'n meibion ni:
31
Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i'w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled.
32
A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein DUW ni,
33
A thuag at y bara gosod, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, a thuag at y poethoffrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pech-ebyrth, i wneuthur cymod dros Israel; a thuag at holl waith tŷ ein DUW.
34
A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein DUW ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein DUW, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith:
35
Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr ARGLWYDD:
36
A'r rhai cyntaf‐anedig o'n meibion, ac o'n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a'n defaid, i'w dwyn i dŷ ein DUW, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein DUW ni.
37
A blaenion ein toes, a'n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein DUW, a degwm ein tir i'r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.
38
A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda'r Lefiaid, pan fyddo'r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein DUW ni, i'r celloedd yn y trysordy.
39
Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, i'r ystafelloedd, lle y mae llestri'r cysegr, a'r offeiriaid sydd yn gweini, a'r porthorion, a'r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein DUW.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
Recommended Reading
Commentary
Nehemiah Commentaries
→
Devotional
Nehemiah Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→