bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Nehemiah 5
Nehemiah 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a'u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.
2
Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a'n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.
3
Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a'n gwinllannoedd, a'n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.
4
Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a'n gwinllannoedd.
5
Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a'n merched yn weision, ac y mae rhai o'n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i'w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a'n gwinllannoedd hyn.
6
Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a'r geiriau hyn.
7
Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a'r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr.
8
Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i'r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.
9
A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein DUW ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion?
10
Myfi hefyd, a'm brodyr, a'm llanciau, ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd: peidiwn, atolwg, â'r ocraeth yma.
11
Rhoddwch atolwg, iddynt heddiw eu meysydd, eu gwinllannoedd, a'u holewyddlannoedd, a'u tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a'r ŷd, y gwin, a'r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt.
12
Hwythau a ddywedasant, Nyni a'u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac a'u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn.
13
A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo DUW bob gŵr o'i dŷ, ac o'i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A'r holl gynulleidfa a ddywedasant, Amen: ac a folianasant yr ARGLWYDD. A'r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.
14
Ac o'r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr fara y tywysog.
15
Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o'm blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sicl o arian; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn DUW.
16
Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn, ac ni phrynasom un maes: a'm holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith.
17
Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon ac o swyddogion, ddengwr a saith ugain, heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o'r cenhedloedd y rhai oedd o'n hamgylch.
18
A'r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu paratoi i mi; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math, yn ddiamdlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma.
19
Cofia fi, O fy NUW, er lles i mi, yn ôl yr hyn oll a wneuthum i'r bobl hyn.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
Recommended Reading
Commentary
Nehemiah Commentaries
→
Devotional
Nehemiah Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→