bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Nehemiah 13
Nehemiah 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu'r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na'r Moabiad ddyfod i gynulleidfa DUW yn dragywydd;
2
Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i'w melltithio hwynt: eto ein DUW ni a drodd y felltith yn fendith.
3
A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.
4
Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein DUW ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:
5
Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o'r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau, y thus, a'r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, a orchmynasid eu rhoddi i'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.
6
Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;
7
Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ DDUW.
8
A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o'r ystafell.
9
Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ DDUW, yr offrwm a'r thus.
10
Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a'r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i'w faes.
11
Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ DDUW? A mi a'u cesglais hwynt ynghyd, ac a'u gosodais yn eu lle.
12
Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a'r gwin, a'r olew, i'r trysordai.
13
A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o'r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i'w brodyr.
14
Cofia fi, fy NUW oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy NUW, ac i'w wyliadwriaethau ef.
15
Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.
16
Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.
17
Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi'r dydd Saboth?
18
Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein DUW ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi'r Saboth.
19
A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau'r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi'r Saboth: a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.
20
Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o'r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.
21
A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i'ch erbyn. O'r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach.
22
A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio'r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy NUW, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.
23
Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt:
24
A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o'r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl.
25
Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt: a mi a'u tyngais hwynt trwy DDUW, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i'w meibion hwynt, ac na chymerwch o'u merched hwynt i'ch meibion, nac i chwi eich hunain.
26
Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei DDUW, a DUW a'i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.
27
Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein DUW, trwy briodi gwragedd dieithr?
28
Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf.
29
O fy NUW, cofia hwynt, am iddynt halogi'r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a'r Lefiaid.
30
Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i'r offeiriaid ac i'r Lefiaid, pob un yn ei waith;
31
Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy NUW, er daioni.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
Recommended Reading
Commentary
Nehemiah Commentaries
→
Devotional
Nehemiah Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→