bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Nehemiah 4
Nehemiah 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur, efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr, ac a watwarodd yr Iddewon.
2
Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria, ac a ddywedodd, Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant? a orffennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o'r tyrrau llwch, wedi eu llosgi?
3
A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl, ac efe a ddywedodd, Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt.
4
Gwrando, O ein DUW; canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed:
5
Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddileer eu pechod hwynt o'th ŵydd di: canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr.
6
Felly nyni a adeiladasom y mur: a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.
7
Ond pan glybu Sanbalat, a Thobeia, a'r Arabiaid, a'r Ammoniaid, a'r Asdodiaid, gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr:
8
A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i'w rhwystro.
9
Yna y gweddiasom ar ein DUW, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos, o'u plegid hwynt.
10
A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur.
11
A'n gwrthwynebwyr a ddywedasant, Ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod i'w mysg hwynt, a'u lladd, a rhwystro eu gwaith hwynt.
12
A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O'r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.
13
Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o'r tu ôl i'r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â'u cleddyfau, â'u gwaywffyn, ac â'u bwâu.
14
A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a'r swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr ARGLWYDD mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a'ch merched, eich gwragedd a'ch tai.
15
A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni, DUW a ddiddymodd eu cyngor hwynt; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i'w waith.
16
Ac o'r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a'u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a'r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda.
17
Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a'r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â'r llaw arall yn dal arf.
18
Canys pob un o'r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a'r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.
19
A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd.
20
Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. Ein DUW ni a ymladd drosom.
21
Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a'u hanner hwynt yn dal gwaywffyn, o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr.
22
Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â'i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a'r dydd mewn gwaith.
23
Felly myfi, a'm brodyr, a'm gweision, a'r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i'w golchi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
Recommended Reading
Commentary
Nehemiah Commentaries
→
Devotional
Nehemiah Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→