bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Nehemiah 12
Nehemiah 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
1
Dyma hefyd yr offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel, a Jesua: sef Seraia, Jeremeia, Esra,
2
Amareia, Maluch, Hattus,
3
Sechaneia, Rehum, Meremoth,
4
Ido, Ginnetho, Abeia,
5
Miamin, Maadia, Bilga,
6
Semaia, a Joiarib, Jedaia,
7
Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma benaethiaid yr offeiriaid a'u brodyr yn nyddiau Jesua.
8
A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a'i frodyr.
9
Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyr hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau.
10
A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada,
11
A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua.
12
Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau‐cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;
13
O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan;
14
O Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;
15
O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;
16
O Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam;
17
O Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai;
18
O Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan;
19
Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;
20
O Salai, Calai; o Amoc, Eber;
21
O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.
22
Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau‐cenedl: a'r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad.
23
Meibion Lefi, y pennau‐cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib.
24
A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a'u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr DUW, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth.
25
Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth.
26
Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.
27
Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o'u holl leoedd, i'w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.
28
A meibion y cantorion a ymgynullasant o'r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,
29
Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem.
30
Yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a'r pyrth, a'r mur.
31
A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:
32
Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda,
33
Asareia hefyd, Esra, a Mesulam,
34
Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia,
35
Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff;
36
A'i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr DUW, ac Esra yr ysgrifennydd o'u blaen hwynt.
37
Ac wrth borth y ffynnon, yr hon oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua'r dwyrain.
38
A'r ail fintai o'r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt, a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan;
39
Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid; a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.
40
Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:
41
Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn:
42
Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A'r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.
43
A'r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW a'u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a'r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
44
A'r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i'r offeiriaid a'r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.
45
Y cantorion hefyd a'r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu DUW, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab.
46
Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen‐cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i DDUW.
47
Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i'r cantorion, a'r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i'r Lefiaid; a'r Lefiaid a'u cysegrasant i feibion Aaron.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13