bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Song of Solomon 2
Song of Solomon 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 3 →
1
Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi.
2
Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched.
3
Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a'i ffrwyth oedd felys i'm genau.
4
Efe a'm dug i'r gwindy, a'i faner drosof ydoedd gariad.
5
Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad.
6
Ei law aswy sydd dan fy mhen, a'i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio.
7
Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
8
Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.
9
Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i'n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt.
10
Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth:
11
Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith;
12
Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad;
13
Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a'r gwinwydd â'u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
14
Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a'th olwg yn hardd.
15
Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i'n gwinllannoedd egin grawnwin.
16
Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili.
17
Hyd oni wawrio'r dydd, a chilio o'r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8