bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Song of Solomon 5
Song of Solomon 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 6 →
1
Deuthum i'm gardd, fy chwaer, a'm dyweddi: cesglais fy myrr gyda'm perarogl, bwyteais fy nil gyda'm mêl, yfais fy ngwin gyda'm llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.
2
Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a'm gwallt â defnynnau y nos.
3
Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt?
4
Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a'm hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn.
5
Mi a gyfodais i agori i'm hanwylyd; a'm dwylo a ddiferasant gan fyrr, a'm bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo.
6
Agorais i'm hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni'm hatebodd.
7
Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant, a'm trawsant, a'm harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf.
8
Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
9
Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o'r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly?
10
Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil.
11
Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân.
12
Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys.
13
Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol.
14
Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir.
15
Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd.
16
Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8