bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Song of Solomon 8
Song of Solomon 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
1
O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y'th gawn allan, cusanwn di; eto ni'm dirmygid.
2
Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a'm dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.
3
Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a'i law ddeau a'm cofleidiai.
4
Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
5
Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o'r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y'th gyfodais: yno y'th esgorodd dy fam; yno y'th esgorodd yr hon a'th ymddûg.
6
Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.
7
Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.
8
Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i'n chwaer y dydd y dyweder amdani?
9
Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a'i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.
10
Caer ydwyf fi, a'm bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.
11
Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.
12
Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i'r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.
13
O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.
14
Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8