bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Song of Solomon 3
Song of Solomon 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 4 →
1
Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
2
Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a'r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
3
Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?
4
Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac nis gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a'm hymddûg.
5
Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
6
Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o'r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?
7
Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o'i amgylch, sef o gedyrn Israel.
8
Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dysgu i ryfel, pob un â'i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nos.
9
Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus.
10
Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borffor; ei ganol a balmantwyd â chariad, i ferched Jerwsalem.
11
Ewch allan, merched Seion, ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron â'r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef, ac yn nydd llawenydd ei galon ef.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8