bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Song of Solomon 6
Song of Solomon 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 7 →
1
I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o'r gwragedd? i ba le y trodd dy anwylyd? fel y ceisiom ef gyda thi.
2
Fy anwylyd a aeth i waered i'w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili.
3
Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a'm hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
4
Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.
5
Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a'm gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.
6
Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o'r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.
7
Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.
8
Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.
9
Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a'i hesgorodd: y merched a'i gwelsant, ac a'i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a'r gordderchwragedd, a hwy a'i canmolasant hi.
10
Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?
11
Euthum i waered i'r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.
12
Heb wybod i mi y'm gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.
13
Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8