bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Peter 1
1 Peter 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Petr Apostol Iesu Grist at etholedig ymdeithwyr y Gwasgariad yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia,
2
yn ol rhagwybodaeth Duw Dâd, yn sancteiddiad yr Yspryd, i ufudd‐dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer.
3
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol trwy Adgyfodiad Iesu Grist o feirw,
4
i etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, yng nghadw yn y nefoedd i chwi,
5
y rhai trwy allu Duw ydych warchodedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i'w dadguddio yn yr amser diweddaf.
6
Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod am ychydig, yn awr, os rhaid yw, wedi eich tristâu mewn amrywiol brofedigaethau,
7
fel y caffer fod prawf eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrocach na'r aur colladwy er ei brofi trwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn Nadguddiad Iesu Grist:
8
yr hwn na welsoch yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yn awr yn ei weled, eto yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anrhaethadwy a gogoneddedig;
9
gan dderbyn diwedd eich ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau.
10
Am yr hon iachawdwriaeth y dyfal‐geisiodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi, y rhai a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi;
11
gan chwilio pa amser neu pa fath amser yr oedd Yspryd Crist yr hwn oedd ynddynt, yn ei nodi, pan oedd efe yn rhag‐dystiolaethu dyoddefiadau Crist a'r gogoniant ar eu hol.
12
I'r rhai y dadguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddent yn gweinyddu y pethau hyn, y rhai yn awr sydd wedi eu hyspysu i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy yr Yspryd Glân a anfonwyd allan o'r nef: i'r hyn bethau y mae angelion yn awyddu edrych.
13
O herwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn berffaith sobr, gobeithiwch am y grâs sydd yn cael ei ddwyn i chwi yn Nadguddiad Iesu Grist;
14
fel plant ufudd‐dod heb gyd‐ymagweddu â'ch chwantau blaenorol yn eich anwybodaeth:
15
eithr megys y mae yr hwn a'ch galwodd yn sanctaidd, byddwch chwithau eich hunain hefyd yn sanctaidd ym mhob ymarweddiad,
16
canys y mae yn ysgrifenedig, Chwi a fyddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi.
17
Ac os ydych yn galw arno ef fel Tâd, yr hwn heb dderbyn wyneb sydd yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn;
18
gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian neu aur, y'ch prynwyd o'ch ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd o'ch tadau;
19
eithr â gwerthfawr waed, megys oen dianaf a difrycheulyd, sef gwaed Crist;
20
yr hwn yn wir a rag‐adnabuwyd cyn seiliad y byd, eithr a amlygwyd ar ddiwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi,
21
y rhai trwyddo ef ydych gredinwyr yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw.
22
Chwychwi, wedi puro eich eneidiau yn eich ufudd‐dod i'r gwirionedd i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o'r galon yn wresog;
23
wedi eich hadgenhedlu, nid o hâd llygredig, eithr anllygredig, trwy air bywiol ac arosol Duw.
24
Canys pob cnawd sydd fel glaswelltyn, a'i holl ogoniant fel blodeuyn y glaswelltyn; gwywa y glaswelltyn, a'r blodeuyn a syrth;
25
eithr Gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw y gair a efengylwyd i chwi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5