bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Peter 5
1 Peter 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Yr henuriaid gan hynny yn eich plith yr wyf yn eu cynghori — yr hwn wyf gyd‐henuriad a thyst o ddyoddefiadau Crist, yr hwn wyf hefyd gyfrannog o'r Gogoniant ar fedr ei ddadguddio,
2
— bugeiliwch braidd Duw y sydd yn eich plith, nid trwy gymhell, ond o wirfodd; nid er mwyn budr‐elw, ond â meddwl parod:
3
nid fel yn arglwyddiaethu ar y rhai a ymddiriedwyd i'ch gofal, eithr gan fod yn esiamplau i'r praidd.
4
A phan yr amlygir y Pen‐bugail, chwi a dderbyniwch anniflanedig Goron y Gogoniant.
5
Yr un modd, y rhai ieuengach, byddwch ddarostyngedig i'r rhai hynach. Ie, ymwregyswch oll â gostyngeiddrwydd tu ag at eich gilydd; oblegyd y mae Duw yn gosod ei hun yn erbyn y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig.
6
Ymostyngwch gan hynny dan rymus law Duw, fel y'ch dyrchafo chwi mewn amser cyfaddas,
7
gan fwrw eich holl bryder arno ef; canys y mae efe yn gofalu am danoch chwi.
8
Byddwch sobr, gwyliwch. Y mae eich gwrthwynebwr Diafol, megys llew yn rhuo, yn rhodio oddi amgylch, yn ceisio rhyw un i'w draflyncu.
9
Yr hwn gwrthsefwch yn gadarn yn y ffydd, gan wybod fod yr un dyoddefiadau yn cael eu cyflawnu gan y frawdoliaeth yn y byd.
10
A Duw pob grâs yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, wedi i chwi ddyoddef am ychydig, efe ei hun a'ch adfera, a'ch cadarnhâ, a'ch nertha.
11
Iddo ef y byddo'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12
Gyda Silfanus, y brawd ffyddlawn, fel y cyfrifaf ef, yr ysgrifennaf atoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir râs Duw; sefwch ynddo.
13
Y mae yr hon sydd gyd‐etholedig yn Babylon yn eich annerch, ac felly y mae Marc fy mab i.
14
Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll — y rhai sydd yng Nghrist.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5