bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Peter 2
1 Peter 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Wedi rhoddi ymaith, gan hynny, bob malais, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigennau, a phob enllibau,
2
megys babanod newydd eu geni, hiraethwch am y llaeth ysprydol, didwyll, fel y cynhyddoch trwyddo i iachawdwriaeth,
3
os profasoch fod yr Arglwydd yn garedig.
4
A chan ddyfod ato ef, Maen Byw, gan ddynion yn wir yn wrthodedig, ond gyda Duw yn etholedig ac mewn anrhydedd; chwithau hefyd,
5
megys meini byw, adeilader chwi yn dŷ ysprydol, er offeiriadaeth sanctaidd i offrymu aberthau ysprydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6
Canys cynhwysir yn yr Ysgrythyr: Wele, yr wyf yn gosod yn Sion ben‐congl‐faen, etholedig, mewn anrhydedd. A'r hwn a gred ynddo ef, ni chywilyddir ddim.
7
I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yr anrhydedd, ond i'r rhai nad ydynt yn credu, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaed yn ben y gongl,
8
Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd: i'r hyn beth hefyd y penodwyd hwynt.
9
Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, offeiriadaeth frenhinol, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw, fel y mynegoch ragoriaethau yr hwn a'ch galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef;
10
y rhai gynt nid oeddych bobl, eithr yn awr ydych bobl i Dduw; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr a gawsoch drugaredd.
11
Anwyliaid, yr wyf yn atolwg i chwi megys ymdeithyddion a dyeithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn milwrio yn erbyn yr enaid;
12
gan fod â'ch ymarweddiad yn weddaidd ym mhlith y Cenhedloedd; fel, yn yr hyn y maent yn eich enllibio fel drwg‐weithredwyr, y gallont, trwy weled eich gweithredoedd da, y rhai a welant, ogoneddu Duw yn Nydd yr Ymweliad.
13
Ymddarostyngwch i bob sefydliad dynol o herwydd yr Arglwydd, pa un bynnag ai i frenin, megys goruchaf;
14
ai i lywiawdwyr, megys yn cael eu danfon ganddo ef er cosp drwgweithredwyr a chlod gweithredwyr yr hyn sydd dda.
15
Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi, wneuthurwyr daioni, safn‐rwymo anwybodaeth dynion anghall;
16
megys yn rhyddion, ac nid yn meddiannu y rhyddid fel gorchudd drygioni, ond fel caethweision Duw.
17
Anrhydeddwch bawb; cerwch y frawdoliaeth; ofnwch Dduw; anrhydeddwch y brenin.
18
Y gweision teuluol, ymddarostyngwch gyda phob ofn i'ch meistriaid, nid yn unig i'r rhai da ac addfwyn, ond hefyd i'r trofaus;
19
canys hyn sydd achos diolch, os yw neb o herwydd ymwybodolrwydd o Dduw yn dwyn tristwch, gan ddyoddef ar gam;
20
canys pa glod yw, os pan yn pechu ac yn cael eich dyrnodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur da, gan ddyoddef, y dygwch ef yn amyneddgar, y mae hyn yn achos diolch i chwi gyda Duw:
21
canys i hyn y'ch galwyd; oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd drosom ni, gan adael i chwi esiampl, fel y canlynech ei ôl ef;
22
yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chafwyd chwaith dwyll yn ei enau;
23
yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwai yn ol; pan yn dyoddef, ni fygythiai, eithr traddodai ei hun i'r hwn sydd yn barnu yn gyfiawn;
24
yr hwn ei hun a ddug ein pechodau yn ei gorph ar y pren, fel, wedi darfod â phechodau, y byddem byw i gyfiawnder; trwy gleisiau yr hwn y'ch iachawyd chwi,
25
Canys yr oeddech fel defaid yn myned ar gyfeiliorn, eithr yn awr yr ydych wedi troi yn ol at Fugail a Gwarcheidwad eich eneidiau.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5