bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Peter 3
1 Peter 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Yr un modd, chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr eich hunain, fel, hyd yn nod os oes rhai heb ufuddhau i'r Gair, trwy ymarweddiad y gwragedd yr enillir hwynt heb y Gair,
2
gan sylwi o honynt ar eich ymarweddiad diwair gydag ofn;
3
gan y rhai bydded, nid yr addurniad oddi allan o blethiad gwallt, ymwisgo â thlysau o aur neu wisgiad dillad,
4
eithr cuddiedig ddyn y galon, yn addurniad anllygredig yr yspryd addfwyn a thawel, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra gwerthfawr.
5
Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai a obeithient yn Nuw, yn arfer ymaddurno, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr eu hunain;
6
megys yr ufuddhaodd Sarah i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd, plant i'r hon y'ch gwnaed trwy wneuthur yr hyn sydd dda, ac heb ofni unrhyw arswyd.
7
Y gwŷr, yr un modd, cyd‐drigwch â'ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi anrhydedd i'r wraig, megys i'r llestr gwannaf, megys hefyd yn gyd‐etifeddion grâs y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau.
8
Yn olaf, byddwch oll yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn caru'r frawdoliaeth, yn dosturiol, yn ostyngedig,
9
nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond yng ngwrthwyneb, yn bendithio, gan i hyn y'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.
10
Canys, Yr hwn a ewyllysia garu bywyd A gweled dyddiau da, Atalied ei dafod oddi wrth ddrwg A'i wefusau rhag llefaru twyll:
11
Gocheled y drwg, a gwnaed y da; Ceisied heddwch, a dylyned ef;
12
Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, A'i glustiau ef tu ag at eu deisyfiad hwynt: Eithr wyneb yr Arglwydd sydd ar y rhai sydd yn gwneuthur drwg.
13
A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn selog am yr hyn sydd dda?
14
Eithr os bydd i chwi hyd yn nod ddyoddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch eu dychryn hwynt, ac na'ch cynhyrfer,
15
eithr fel Arglwydd sancteiddiwch Grist yn eich calonnau; gan fod yn barod bob amser gydag ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch,
16
eithr gydag addfwynder ac ofn; a chennych gydwybod dda; fel, yn yr hyn y lleferir yn eich erbyn, y cywilyddier y rhai sydd yn sarhâu eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist.
17
Canys gwell ydyw, os cwyllys Duw a'i myn, i chwi ddyoddef pan yn gwneuthur daioni na phan yn gwneuthur drwg.
18
Canys Crist hefyd unwaith am byth a ddyoddefodd am bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei roddi i farwolaeth yn y cnawd, ond ei fywhâu yn yr yspryd;
19
yn yr hwn hefyd yr aeth efe ac a bregethodd i'r ysprydion yngharchar,
20
y rhai a fuont gynt yn anufudd, pan ddisgwyliai hir‐amynedd Duw yn nyddiau Noah, tra y darperid yr Arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.
21
Yr hwn hefyd, yn y gwrth‐gysgod, sef Bedydd, sydd yn awr yn eich achub chwi, — nid golchiad ymaith fudreddi y cnawd, ond ymholiad cydwybod dda tu ag at Dduw — trwy Adgyfodiad Iesu Grist;
22
yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i'r nef, angylion, awdurdodau, a galluoedd wedi eu darostwng iddo.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5