bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Peter 4
1 Peter 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Am hynny, gan ddyoddef o Grist yn y cnawd, ymarfogwch chwithau hefyd eich hunain â'r un meddwl, canys yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd sydd wedi peidio â phechod,
2
fel na byddo mwyach o'r amser sydd yn ol fyw yn y cnawd wrth chwantau dynion, ond wrth ewyllys Duw.
3
Canys digon yr amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, pan y rhodiasom mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, gloddestau, cyfeddach, a ffiaidd eilun‐addoliadau;
4
yn yr hyn y synnant nad ydych yn cyd‐redeg â hwynt i'r un dylif o ysgelerder, gan gablu;
5
y rhai a roddant gyfrif i'r hwn sydd barod i farnu y byw a'r meirw.
6
Canys i'r dyben hwn yr efengylwyd hyd yn nod i'r meirw, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond byw yn ol Duw yn yr yspryd.
7
Eithr diwedd pob peth sydd wedi agoshau; am hynny byddwch bwyllog a sobr i weddïau;
8
o flaen pob peth, yn wresog yn eich cariad tu ag at eich gilydd, canys cariad sydd yn gorchuddio lliaws o bechodau;
9
yn lletygar y naill i'r llall, heb rwgnach;
10
fel y derbyniodd pob un rodd yn ei gweinyddu ym mhlith eich gilydd, fel goruchwylwyr da amrywiol râs Duw.
11
Os yw neb yn llefaru, llefared megys oraclau Duw; os yw neb yn gweini, gwnaed megys o'r nerth a gyflenwa Duw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i'r hwn y mae y gogoniant a'r cadernid yn oes oesoedd. Amen.
12
Anwyliaid, na synnwch wrth y prawf tanllyd sydd yn eich plith, er eich profi, fel pe bai peth dyeithr yn dygwydd i chwi;
13
eithr gymaint ag yr ydych yn cyfranogi o ddyoddefiadau Crist, llawenhêwch, fel yn Nadguddiad ei Ogoniant y llawenhêwch gan orfoleddu.
14
Os difenwir chwi am enw Crist, gwyn eich byd, canys y mae Yspryd y Gogoniant, ië, Yspryd Duw, yn gorphwys arnoch.
15
Canys na ddyoddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwg‐weithredwr, neu ymyrrwr â materion pobl eraill:
16
ond os fel Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn;
17
canys y mae yn amser i'r farn ddechreu gyda thŷ Dduw; ac os yn gyntaf gyda ni, pa beth fydd diwedd y rhai sydd yn anufuddhâu i Efengyl Duw?
18
Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?
19
Felly hefyd bydded i'r rhai sydd yn dyoddef yn ol ewyllys Duw roddi gofal eu heneidiau i Greawdwr ffyddlawn, gan wneuthur yr hyn sydd dda.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5