bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Thessalonians 1
1 Thessalonians 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw Dâd a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi a thangnefedd
2
Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddiau,
3
gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tâd;
4
gan wybod, frodyr anwyl gan Dduw, eich etholedigaeth,
5
na ddaeth ein hefengyl ni attoch mewn ymadrodd yn unig, ond hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn llawn‐sicrwydd, — fel y gwyddoch pa fath rai a fuom yn eich plith er eich mwyn chwi.
6
A chwi a ddaethoch yn efelychwyr o honom ni ac o'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Yspryd Glân,
7
fel yr aethoch yn siampl i'r holl gredinwyr yn Macedonia ac yn Achaia:
8
canys oddiwrthych chwi y seiniwyd allan Air yr Arglwydd, nid yn unig yn Macedonia ac Achaia, ond ym mhob man y mae eich ffydd tuag at Dduw wedi ymledaenu, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim;
9
canys hwy eu hunain sydd yn mynegi am danom, y fath ddyfodiad i mewn a gawsom ni attoch chwi, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eilunod, i wasanaethu y bywiol a'r gwirioneddol Dduw,
10
ac i ddysgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe oddiwrth y meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o'r digofaint sydd yn dyfod.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5