bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Thessalonians 2
1 Thessalonians 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad i mewn attoch, nad ydyw wedi bod yn ofer;
2
eithr wedi dyoddef o'r blaen a'n sarhâu, fel y gwyddoch, yn Philippi, ni a fuom hŷf yn ein Duw i lefaru wrthych efengyl Duw mewn mawr ymdrech.
3
Canys ein happêl ni nid ydoedd o gyfeiliornad, nac o aflendid, nac mewn twyll;
4
eithr megys yr ydym wedi ein cymmeradwyo gan Dduw i gael ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau.
5
Canys ni ddaethom un amser mewn ymadrodd gweinieithus, fel y gwyddoch; nac mewn gorchudd cybydd‐dod, Duw sydd dyst;
6
nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, nac oddiwrthych chwi, nac oddiwrth eraill; a ni yn gallu bod o bwys fel Apostolion Crist.
7
Eithr ni a fuom fabanod yn eich canol: fel pan mae mammaeth yn maethu ei phlant ei hun;
8
felly gan ymserchu ynoch, boddlawn fuom i gyfrannu i chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond hefyd ein heneidiau ein hunain, oblegyd eich bod yn anwyl i ni.
9
Canys côf yw gennych, frodyr, ein llafur a'n trafferth; gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, ni a gyhoeddasom i chwi efengyl Duw.
10
Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius y buom yn eich golwg chwi y rhai ydych yn credu:
11
megys y gwyddoch y modd yr ymddygasom at bob un o honoch, megys tâd at ei blant ei hun,
12
gan eich cynghori a'ch calonogi a'ch tynghedu i rodio yn deilwng o Dduw, yr hwn sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant.
13
Ac oblegyd hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi, pan dderbyniasoch y gair a glywsoch, Gair Duw, ei roesawu nid fel gair dynion, eithr, (fel y mae yn wir), yn air Duw, yr hwn sydd yn nerthol‐weithio ynoch chwi, y credinwyr;
14
canys chwychwi a ddaethoch i fod yn efelychwyr, frodyr, o eglwysi Duw, y rhai sydd yn Judea yng Nghrist Iesu, canys chwi hefyd a ddyoddefasoch yr un pethau gan eich cyd‐wladwyr eich hunain, megys hwythau hefyd gan yr Iuddewon;
15
y rhai hefyd a laddasant yr Arglwydd Iesu a'r Prophwydi, ac a'n herlidiasant ninnau allan, ac nid ydynt yn rhyngu bodd Duw, ac y maent yn wrthwynebus i bob dyn;
16
yn gwarafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd fel yr achubid hwy, fel i lanw i fyny fesur eu pechodau yn wastadol: ond y mae y Digofaint wedi eu gorddiwes o'r diwedd.
17
A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, oeddem o lawer yn fwy astud i weled eich wyneb, gydag awydd mawr;
18
oblegyd ewyllysiasom ddyfod attoch, myfi Paul, ië unwaith a dwywaith, a Satan a'n lluddiodd ni.
19
Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein hymffrost? Onid chwychwi gerbron ein Harglwydd Iesu yn ei Ddyfodiad?
20
Canys chwychwi yw ein gogoniant a'n llawenydd ni.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5