bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Thessalonians 3
1 Thessalonians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Am hynny, gan na allem ymattal yn hwy, bu foddlawn gennym gael ein gadael ar ol yn unig yn Athen,
2
a danfonasom Timotheus ein brawd, a gweinidog Duw yn efengyl Crist, i'ch sefydlu a'ch calonogi ar ran eich ffydd;
3
fel nad ysgydwer neb yn y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni;
4
canys yn wir pan oeddym gyda chwi, ni a rag‐ddywedasom i chwi y gorthrymmid ni, fel y dygwyddodd hefyd ac y gwyddoch.
5
O herwydd hyn, myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag ddarfod i'r Temtiwr mewn unrhyw fodd eich temtio, a myned ein llafur ni yn ofer.
6
Eithr wedi yn awr ddyfod o Timotheus attom oddiwrthych, a dwyn i ni newyddion da am eich ffydd a'ch cariad, a bod gennych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megys ninnau hefyd chwithau;
7
o achos hyn y'n calonogwyd, frodyr, am danoch chwi, yn ein holl angenoctid a gorthrymder, trwy eich ffydd chwi;
8
canys yn awr byw ydym, os ydych chwi yn sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd.
9
Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad‐dalu i Dduw am danoch, am yr holl lawenydd â'r hwn y llawenychwn o'ch achos chwi gerbron ein Duw,
10
gan ddeisyfu nos a dydd, tuhwnt i bob mesur, i weled eich wyneb chwi, a chyflenwi diffygion eich ffydd?
11
A Duw ei hun a'n Tâd ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd attoch;
12
a'r Arglwydd a'ch lliosogo ac a'ch gwnelo yn helaeth mewn cariad tuag at eich gilydd ac at bawb, megys ag yr ydym ninnau hefyd tuag attoch chwi,
13
fel y sefydlo eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tâd, yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5