bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Thessalonians 5
1 Thessalonians 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Ond am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid oes arnoch angen dim i'w ysgrifennu attoch,
2
canys chwi eich hunain a wyddoch yn gywir fod Dydd yr Arglwydd felly yn dyfod fel lleidr yn y nos.
3
Pan ddywedant, Tangnefedd a dyogelwch, yna y mae dinystr disymmwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megys gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiangant o gwbl.
4
Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo y Dydd chwi megys lleidr;
5
canys chwychwi oll, meibion y goleuni ydych a meibion y dydd, nid ydym ni o' r nos nac o'r tywyllwch.
6
Yn wir gan hynny, na chysgwn fel y lleill, eithr gwyliwn a byddwn sobr;
7
canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant, a'r rhai a feddwant y nos y meddwant;
8
ond nyni, a ni o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac fel helm, gobaith iachawdwriaeth.
9
Canys ni phennododd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffaeliad iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
10
yr hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag ai gwylied ai cysgu y byddom, y byddom fyw ynghyd gydag ef.
11
Gan hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, megys ag yr ydych yn gwneuthur.
12
Ac yr ydym yn gofyn i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac ydynt yn eich llywodraethu yn yr Arglwydd,
13
ac yn eich cynghori, a gwneuthur cyfrif mawr iawn o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.
14
Ac yr ydym yn eich cynghori, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus; cysurwch y rhai gwan‐galon; cynheliwch y gweiniaid; byddwch ymarhous wrth bawb.
15
Gwelwch na thalo neb ddrwg am ddrwg i neb, eithr yn wastadol dylynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.
16
Byddwch lawen yn wastadol.
17
Gweddiwch yn ddibaid.
18
Ym mhob peth diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag attoch chwi.
19
Na ddiffoddwch yr Yspryd.
20
Na ddiystyrwch brophwydoliaethau.
21
Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.
22
Ymgedwch rhag pob ffurf o ddrygioni.
23
A Duw y tangnefedd, efe ei hun a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer yn gyfan oll eich yspryd a'ch enaid a'ch corph yn ddifeius yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
24
Ffyddlawn yw yr hwn sydd yn eich galw, yr hwn hefyd a'i gwna.
25
Frodyr, gweddiwch drosom.
26
Annerchwch y brodyr oll â chusan sanctaidd.
27
Yr wyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd ar ddarllen y llythyr i'r holl frodyr.
28
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5