bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Thessalonians 4
1 Thessalonians 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Yn ddiweddaf, frodyr, yr ydym yn deisyf ac yn eich annog yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a boddloni Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio,
2
ar i chwi ymhelaethu fwy‐fwy, canys chwi a wyddoch pa orchymynion a roddasom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu;
3
canys hyn yw ewyllys Duw, eich sancteiddiad, ar ymgadw o honoch oddiwrth odineb,
4
ar wybod o bob un o honoch pa fodd i ennill meddiant o'i lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch,
5
nid yng ngwŷn trachwant, fel y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:
6
fel na byddo i neb fyned dros y terfyn a gwneuthur cam a'i frawd yn y mater, canys dialydd yw yr Arglwydd yn yr holl bethau hyn, megys y dywedasom i chwi o'r blaen ac y tystiasom;
7
canys ni alwodd Duw nyni i aflendid eithr mewn sancteiddiad.
8
Gan hynny, y neb sydd yn gwrthod, nid dyn y mae yn ei wrthod, ond Duw, yr hwn sydd yn rhoddi ei Yspryd Glân i chwi.
9
Ond am gariad brawdol, nid oes arnoch angen ysgrifennu o honof attoch, canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd;
10
canys yr ydych hefyd yn gwneuthur hyn tuag at yr holl frodyr sydd yn holl Macedonia; ac yr ydym yn eich annog, frodyr,
11
i ymhelaethu fwy‐fwy, a rhoddi o honoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylaw, megys y gorchymynasom i chwi,
12
fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na bo arnoch eisieu dim.
13
Ond ni ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno, na thristâoch, megys eraill y rhai nid oes ganddynt obaith;
14
canys os ydym yn credu i Iesu farw ac adgyfodi, felly hefyd Duw a ddyg y rhai a hunasant trwy yr Iesu gydag ef.
15
Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng Ngair yr Arglwydd: Nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael eu gadael hyd Ddyfodiad yr Arglwydd, ni rag‐flaenwn o gwbl y rhai a hunasant;
16
oblegyd yr Arglwydd ei hun gyda bloedd, gyda llef archangel, ac âg udgorn Duw, a ddisgyn o'r nef, a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf;
17
wedi hynny nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael ein gadael, a gipir i fyny ynghyd gyda hwynt mewn cymmylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.
18
Am hynny calonogwch eich gilydd â'r ymadroddion hyn.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5