bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Ephesians 1
Ephesians 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y saint sydd [yn Ephesus ] a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu:
2
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
3
Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist;
4
fel yr etholodd ni ynddo Ef, cyn seiliad y byd, ar fod o honom yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron Ef:
5
wedi iddo, mewn cariad, ein rhagordeinio i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys,
6
er mawl gogoniant ei ras, yr hwn a rad‐roddodd efe i ni, yn yr Anwylyd,
7
yn yr hwn y mae gennym brynedigaeth trwy ei waed, maddeuant o'n troseddau, yn ol cyfoeth ei ras,
8
yr hwn a wnaeth Efe ymhelaethu tuag attom ni, wedi iddo, ym mhob doethineb a deall,
9
hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ol ei foddlonrwydd, yr hwn a arfaethodd Efe ynddo ei hun,
10
mewn perthynas i gyfundrefn cyflawnder yr amseroedd, i grynhoi ynghyd drachefn bob peth yng Nghrist, y rhai yn y nefoedd, a'r rhai ar y ddaear,
11
ynddo Ef, yn yr hwn hefyd y'n gwnaed yn etifeddiaeth, wedi ein rhag‐ordeinio yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor ei ewyllys,
12
fel y byddem er mawl ei ogoniant, y rhai a obeithiasom o'r blaen yng Nghrist;
13
yn yr hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, — yn yr hwn, wedi credu o honoch hefyd, y'ch seliwyd âg Yspryd Glân yr Addewid,
14
yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth hyd brynedigaeth ei berchenogaeth, i fawl ei ogoniant.
15
O herwydd hyn, myfi hefyd, wedi clywed am y ffydd yn yr Arglwydd Iesu yr hon sydd yn eich plith, [a'ch cariad] tuag at yr holl saint,
16
nid wyf yn peidio a diolch drosoch, gan wneuthur coffa yn fy ngweddiau,
17
ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y Gogoniant, roddi i chwi Yspryd doethineb a dadguddiad, mewn llawn‐adnabyddiaeth o hono ef;
18
wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon, fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth yn y saint,
19
a pheth yw rhagorol fawredd ei allu tuag attom ni sydd yn credu, yn ol gweithrediad cadernid ei nerth ef,
20
yr hwn a weithredodd Efe yng Nghrist, gan ei gyfodi o feirw a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,
21
goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw;
22
ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef ac a'i rhoddodd ef yn Ben dros bob peth i'r Eglwys,
23
yr hon yw ei Gorph ef, cyflawnder yr hwn sydd yn llenwi oll ag oll.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6