bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Ephesians 3
Ephesians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
Ar gyfrif hyn myfi, Paul, carcharor Crist Iesu ar eich rhan chwi y Cenhedloedd,
2
os clywsoch yn wir am oruchwyliaeth gras Duw yr hwn a roddwyd i mi tuag attoch chwi,
3
mai yn ol dadguddiad y gwnaed yn hyspys i mi y dirgelwch (megys yr ysgrifennais o'r blaen yn fyr,
4
wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, ganfod fy neall yn nirgelwch Crist),
5
yr hwn mewn cenedlaethau eraill ni eglurwyd i feibion dynion, fel yn awr y dadguddiwyd ef i'w sanctaidd Apostolion a'i Brophwydi yn yr Yspryd,
6
fod y Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion ac yn gyd‐aelodau o'r corph, ac yn gyd‐gyfrannogion o'r Addewid yng Nghrist Iesu, trwy yr Efengyl,
7
i'r hon y'm gwnaed yn weinidog yn ol rhodd gras Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ol gweithrediad ei allu ef;
8
i mi, yn llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu i'r Cenhedloedd anolrheiniadwy olud Crist;
9
a rhoi goleu i bawb ar beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a guddiwyd oddiwrth yr oesau yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth,
10
fel yr hyspysid yn awr i'r llywodraethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy yr eglwys, fawr‐amryliw ddoethineb Duw,
11
yn ol yr arfaeth dragywyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd,
12
yn yr hwn y mae i ni hyfdra a dyfodfa mewn hyder trwy ffydd ynddo ef.
13
O herwydd paham yr wyf yn deisyf na lwfrhâoch yng nghanol fy mlinderau drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.
14
O herwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at y Tâd,
15
o'r hwn yr enwir pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,
16
ar roddi o hono i chwi, yn ol golud ei ogoniant, fod yn gadarn trwy allu, trwy ei Yspryd yn y dyn oddimewn,
17
ar i Grist drigo trwy ffydd yn eich calonnau, fel, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad,
18
y byddoch lwyr‐alluog i amgyffred gyda'r holl saint beth yw y lled, a'r hyd, a'r uchder a'r dyfnder,
19
a gwybod cariad Crist yr hwn sydd ymhell uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch llanwer i fyny i gyflawnder Duw.
20
Ac i'r hwn sydd alluog i wneuthur yn dra‐rhagorol, tu hwnt i bob peth a geisiwn neu a feddyliwn, yn ol y gallu sydd yn gweithredu ynom,
21
iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, i holl genedlaethau oes yr oesoedd. Amen.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6