bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Ephesians 5
Ephesians 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
Byddwch gan hynny efelychwyr Duw, fel plant anwyl;
2
a rhodiwch mewn cariad, megys hefyd y carodd Crist chwi, ac a draddododd ei hun trosoch yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.
3
Ond godineb a phob aflendid, neu drachwant, nac hyd y nod enwer yn eich plith, fel y gwedda i saint;
4
nac anniweirdeb, na ffol‐siarad, neu goeg‐ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus; eithr yn hytrach rhoddi diolch.
5
Canys gwybyddwch hyn, gan gydnabod nad oes i bob putteiniwr, neu aflan, neu un trachwantus, yr hwn sydd eilun‐addolwr, etifeddiaeth yn Nheyrnas Crist a Duw.
6
Na thwylled neb chwi â geiriau ofer, canys oblegyd y pethauh yn y mae digofaint Duw yn dyfod ar feibion anufudd‐dod.
7
Gan hynny na fyddwch gyfrannogion â hwynt.
8
Canys yr oeddech chwi unwaith yn dywyllwch, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;
9
(canys ffrwyth y goleuni sydd ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd;)
10
gan brofi beth sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd;
11
ac na fydded i chwi gymdeithasu â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach dygwch hwynt i brawf;
12
canys y mae yn gywilyddus hyd y nod adrodd y peth a wneir ganddynt yn ddirgel.
13
Canys pob peth pan eu profir, a wneir yn amlwg gan y goleuni;
14
canys pob peth a wneir yn amlwg, goleuni yw. O herwydd hyn y mae yn dywedyd, Deffro, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a lewyrcha arnat.
15
Gan hynny edrychwch yn ofalus pa fodd y rhodioch, nid fel annoethion, ond fel doethion,
16
gan brynnu yn llwyr yr amser, oblegyd y dyddiau sydd ddrwg.
17
O herwydd hyn na fyddwch yn fyr o synwyr, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18
Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae afradlonedd, eithr llanwer chwi â'r Yspryd,
19
gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a pher‐seinio â'ch calon i'r Arglwydd;
20
gan dalu diolch yn wastadol am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist i Dduw a'n Tâd,
21
gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Crist.
22
Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr eich hunain megys i'r Arglwydd;
23
canys y gwr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr Eglwys, ac efe yw Iachawdwr y corph.
24
Ond fel y mae yr eglwys yn ymddarostwng i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr ym mhob peth.
25
Y gwŷr, cerwch eich gwragedd megys hefyd y carodd Crist yr eglwys, ac a draddododd ei hun drosti,
26
fel y sancteiddiai hi, gan ei glanhâu a'r olchfa ddwfr, trwy y gair,
27
fel y cyflwynai efe ei hun iddo ei hun yr eglwys yn ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni na dim o'r cyfryw; eithr fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.
28
Felly y dylai y gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrph eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig ei hun sydd yn ei garu ei hun;
29
canys ni chashâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei feithrin a'i fynwesu y mae, megys Crist hefyd yr eglwys,
30
oblegyd aelodau ydym o'i gorph ef.
31
O achos hyn y gâd dyn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.
32
Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr dywedyd wyf am Grist a'r eglwys.
33
Ar wahân a hyn, chwithau hefyd, un ac un, cared pob un ei wraig ei hun fel ef ei hun; ac edryched y wraig ar barchu o honi ei gwr.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6