bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Ephesians 6
Ephesians 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Y plant, ufuddhêwch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn.
2
Anrhydedda dy dâd a'th fam (yr hwn yw y gorchymyn cyntaf gydag addewid),
3
fel y byddo yn dda i ti ac y byddi fyw yn hir ar y ddaear.
4
A thadau, na ennynwch ddig eich plant, ond dygwch hwynt i fyny yn hyfforddiad a chynghor yr Arglwydd.
5
Y gweision, ufuddhêwch i'ch meistriaid arnoch yn ol y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megys i Grist;
6
nid â llygad‐wasanaeth fel boddlonwyr dynion, ond fel gweision Crist yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon,
7
gydag ewyllysgarwch yn gwasanaethu fel i'r Arglwydd ac nid i ddynion;
8
gan wybod pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe yn ol oddiwrth yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd yw.
9
A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag attynt hwy, gan roddi bygwth heibio, gan wybod fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.
10
Yn ddiweddaf, ymgryfhêwch yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei nerth.
11
Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion y Diafol;
12
canys nid yw ein hymorchest ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn byd‐lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn lluoedd ysprydol drygioni yn y nefolion leoedd.
13
Am hynny cymmerwch i fyny holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi llawn‐wneuthur pob peth, sefyll.
14
Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, ac wedi gwisgo dwyfronneg cyfiawnder,
15
ac wedi rhwymo dan eich traed sandalau parodrwydd efengyl y tangnefedd;
16
yn yr oll cymmerwch i fyny darian y ffydd, â'r hon y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd yr Un Drwg.
17
A chymmerwch helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw;
18
trwy foddion pob rhyw weddi a deisyfiad, yn gweddio ar bob achlysur yn yr Yspryd, ac yn gwylied gyda golwg ar hyn ym mhob dyfal‐bara a deisyfiad am yr holl saint;
19
ac ar fy rhan innau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau mewn hyfdra, i hyspysu dirgelwch yr Efengyl,
20
dros yr hwn yr wyf yn llys‐gennad mewn cadwynau, fel am dano y llefarwn gyda hyfdra, fel y dylwn lefaru.
21
Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, sut y mae arnaf, Tychicus, y brawd anwyl a'r gwas ffyddlawn yn yr Arglwydd,
22
a hyspysa yr oll i chwi, yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn yma, fel y gwypoch ein helynt ac y dyddana efe eich calonnau.
23
Tangnefedd i'r brodyr a chariad gyda ffydd oddiwrth Dduw Dâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
24
Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anllygredigaeth.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6