bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Ephesians 4
Ephesians 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Deisyf arnoch gan hynny yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn deilwng o'r alwedigaeth â'r hon y'ch galwyd,
2
gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gyda hir‐ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad,
3
gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yn rhwymyn tangnefedd.
4
Un corph sydd, ac un Yspryd, megys ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;
5
un Arglwydd, un Ffydd, un Bedydd,
6
un Duw a Thâd pawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.
7
Eithr i bob un o honom y rhoed y gras yn ol mesur dawn Crist.
8
O ganlyniad, y mae efe yn dywedyd: Pan esgynodd i'r uchelder, caethiwodd gaethiwed, A rhoddodd roddion i ddynion.
9
Ond hyn: Esgynodd, beth yw oddieithr iddo ddisgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?
10
Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y llanwai bob peth.
11
Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,
12
er perffeithiad y saint i waith gwasanaeth,
13
i adeiladaeth Corph Crist, hyd oni chyrhaeddom oll i undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, i ŵr perffaith, ac i fesur maintioli cyflawnder Crist;
14
fel na byddom mwyach yn fabanod, yn cael ein taflu gan donnau a'n cludo amgylch ogylch gan bob gwynt athrawiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol cynllwyn twyll;
15
eithr gan fyw gwirionedd mewn cariad, y cynnyddom ym mhob peth iddo ef, yr hwn yw y Pen, Crist,
16
o'r hwn y mae yr holl gorph, wedi ei gyd‐gyflunio a'i gyd‐gyssylltu trwy yr hyn y mae pob cymmal yn ei gyflenwi, yn ol gweithrediad, mewn mesur pob rhan unigol, yn gwneuthur cynnydd y corph i'w adeiladaeth ei hun mewn cariad.
17
Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae y Cenhedloedd hefyd yn rhodio, yn oferedd eu meddwl,
18
wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi ymddyeithrio oddiwrth fywyd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt, o herwydd caledrwydd eu calon;
19
y rhai, wedi colli pob teimlad, a roisant eu hunain i fyny i anlladrwydd, i wneuthur pob aflendid gyda gwancusrwydd.
20
Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist,
21
(os, yn wir, y clywsoch chwi ef ac y'ch dysgwyd ynddo ef fel y mae Gwirionedd yn yr Iesu) sef,
22
dodi o honoch oddiwrthych, mewn perthynas i'ch ymarweddiad gynt, yr hen ddyn, yr hwn sydd yn llygru yn ol chwantau Twyll,
23
a'ch adnewyddu trwy yspryd eich meddwl,
24
a gwisgo am danoch y dyn newydd, yr hwn yn ol delw Duw, a grewyd mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd y Gwirionedd.
25
Am hynny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un wrth ei gymmydog, oblegyd aelodau ydym o'n gilydd.
26
Digiwch ac na phechwch; na fachluded yr haul ar eich cythrudd,
27
ac na roddwch le i Ddiafol.
28
Yr hwn a ladratta, na ladrattâed mwyach, eithr yn hytrach llafuried, gan weithio â'i ddwylaw ei hun yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn sydd mewn angen.
29
Na ddeued unrhyw ymadrodd iselwael allan o'ch genau, eithr y cyfryw a fyddo dda er adeiladaeth fel bo'r angen, fel y rhoddo ras i'r gwrandawyr.
30
Ac na thristêwch Yspryd Glân Duw, yn yr hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.
31
Tynner ymaith oddiwrthych bob chwerwder, a llid, a dig, a dadwrdd, a chabledd, ynghyd â phob drygioni;
32
a byddwch gymmwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, gan faddeu i'ch gilydd, megys hefyd y maddeuodd Duw yng Nghrist Iesu i chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6