bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
James 1
James 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Iago, gwas Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y Deuddeg Llwyth y rhai sydd o'r Gwasgariad. Byddwch lawen,
2
Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amrywiol brofedigaethau,
3
gan wybod fod y prawf o'ch ffydd yn gweithredu amynedd;
4
ond caffed amynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.
5
Ac os yw neb o honoch yn ddiffygiol mewn doethineb, ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i bawb yn ddiamodol ac heb ddannod, a rhoddir iddo.
6
Eithr ceisied mewn ffydd, heb ameu dim; canys yr hwn sydd yn ameu sydd gyffelyb i don y môr a yrrir gan y gwynt ac a deflir;
7
canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd—
8
gŵr dau‐ddyblyg ei feddwl, ansefydlog yn ei holl ffyrdd.
9
Eithr ymffrostied y brawd o radd isel yn ei ddyrchafiad,
10
a'r goludog, yn ei ymddarostyngiad, canys megys blodeuyn y glaswelltyn yr ä heibio.
11
Canys cyfododd yr haul gyda'r gwynt poeth, ac a ddeifiodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd ymaith, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y goludog a wywa ymaith yn ei orchwylion.
12
Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth, canys wedi dal y prawf, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef.
13
Na ddyweded neb pan demtier ef, Oddiwrth Dduw y'm temtir, canys Duw sydd amhosibl ei demtio gan ddrygau, ac nid yw efe ei hun yn temtio neb;
14
ond temtir pob un pan dynner ef ymaith ac yr huder ef gan ei Chwant ei hun.
15
Yna Chwant wedi beichiogi a esgor ar Bechod, a Phechod, wedi dyfod i'w lawn dŵf, a esgor ar Farwolaeth.
16
Fy mrodyr anwyl, na chyfeiliornwch:
17
Pob rhoddiad da a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dâd y Goleuadau, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad na chysgod a gyfyd o gylchdroad.
18
O'i ewyllys ei hun efe a'n cenhedlodd ni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ni yn rhyw flaen‐ffrwyth o'i greaduriaid.
19
Gwyddoch hyn fy anwyl frodyr; ond bydded pob un yn gyflym i wrandaw, yn araf i lefaru, yn araf i ddigofaint;
20
canys digofaint gŵr nid yw yn gweithredu cyfiawnder Duw.
21
O herwydd paham gan roddi heibio bob budreddi ac amlder drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.
22
Eithr byddwch yn wneuthurwyr y Gair ac nid gwrandawyr yn unig, gan dwyllo eich hunain.
23
Canys os yw neb yn wrandawr y Gair ac nid yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn sylwi yn graffus ar ei wynebpryd naturiol mewn drych:
24
canys efe a sylwodd yn graffus arno ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn ebrwydd yr anghofiodd pa fath un ydoedd.
25
Ond yr hwn sydd yn edrych yn eiddgar i'r Gyfraith berffaith, sef Cyfraith rhyddid, ac yn parhau felly, gan fod nid yn wrandâwr anghofus ond yn wneuthurwr egniol, hwn a fydd dedwydd yn ei waith.
26
Os yw neb yn meddwl ei hun ei fod yn grefyddol, heb ffrwyno ei dafod, ond yn twyllo ei galon, ofer yw crefydd hwnnw.
27
Crefydd bur a dihalog gerbron Duw a'r Tâd yw hyn: ymweled â'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5