bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
James 5
James 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Dêwch yn awr, chwi rai goludog, wylwch ac udwch am eich adfydau sydd yn dyfod arnoch.
2
Eich golud a bydrodd, a'ch gwisgoedd a fwytâwyd gan bryfed;
3
Eich aur a'ch arian a rydodd; a'u rhŵd hwynt fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwyty eich cnawd fel tân. Yr ydych wedi pentyrru trysorau yn y dyddiau ydynt ddiweddaf.
4
Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gadwyd yn ol o'ch rhan chwi, yn llefain allan; a gwaedd y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y Lluoedd.
5
Moethus fuoch ar y ddaear, ac anllad; pesgi eich calonnau a wnaethoch yn Nydd Lladdfa.
6
Collfarnasoch, llofruddiasoch y cyfiawn, ac yntau heb sefyll i'ch erbyn.
7
Byddwch ymarhous, gan hynny, frodyr, hyd Ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sydd yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn ymarhous am dano nes iddo dderbyn y gwlaw cynnar a'r diweddar.
8
Byddwch chwithau hefyd ymarhous; sefydlwch eich calonnau: canys Dyfodiad yr Arglwydd a nesâodd.
9
Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na'ch barner; wele, y Barnwr yn sefyll o flaen y drysau.
10
Cymerwch, frodyr, fel siampl o ddrwg‐driniaeth a hir‐ymaros, y prophwydi y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd.
11
Wele, yr ydym yn cyfrif yn ddedwydd y rhai a oddefasant. Chwi a glywsoch am ddewrder Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd, oblegyd tirion iawn yw yr Arglwydd a thosturiol.
12
Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llŵ arall; eithr bydded eich Ië chwi yn Ië, a'ch Nage yn Nage, fel na syrthioch dan farnedigaeth.
13
A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn llawen ei feddwl? caned fawl.
14
A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed am henuriaid yr eglwys, a gweddïont uwch ei ben, wedi ei eneinio âg olew yn enw yr Arglwydd.
15
A gweddi y ffydd a adfer yr hwn sydd glaf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, fe faddeuir iddo.
16
Cyffeswch, gan hynny, eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachâer. Llawer a ddichon gweddi y cyfiawn pan yn gweithredu yn nerthol.
17
Elias oedd ddyn o gyffelyb anian a ninnau, ac efe a weddïodd yn ddifrifol na byddai gwlaw; ac ni bu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe' mis.
18
Ac efe a weddïodd drachefn, a'r nef a roddes wlaw, a'r ddaear a ddug ei ffrwyth.
19
Fy mrodyr, os crwydra neb yn eich plith oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef,
20
gwybyddoch y bydd i'r hwn a drodd bechadur o gyfeiliornad ei ffordd achub enaid rhag angau, a gorchuddio lliaws o bechodau.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5