bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
James 3
James 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Na fyddwch athrawon lawer fy mrodyr, gan wybod mai barnedigaeth fwy a dderbyniwn.
2
Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni oll yn tripio. Od oes neb heb dripio mewn ymadrodd, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno hefyd yr holl gorph.
3
Ac os gosodwn ffrwynau y meirch yn eu geneuau, fel y byddont yn ufudd i ni, yr ydym hefyd yn troi eu holl gorph o amgylch.
4
Wele hefyd y llongau, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, a droir o amgylch â'r llyw lleiaf, lle y mynno tuedd y llywiwr.
5
Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, mor ychydig o dân a ennyn goedwig mor fawr!
6
A'r tafod sydd dân; byd o anghyfiawnder wedi ei osod ym mhlith ein haelodau yw y tafod, yr hwn sydd yn llychwino yr holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna.
7
Canys pob rhywogaeth o wylltfilod ac ehediaid, o ymlusgiaid ac anifeiliaid y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan ddynolryw;
8
ond y tafod nis gall neb dynion ei ddofi; drwg diorphwys ydyw, yn llawn gwenwyn marwol!
9
Ag ef yr ydym yn bendithio yr Arglwydd a'r Tâd; âg ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion, y rhai a wnaed ar lun Duw.
10
O'r un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith. Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.
11
A ydyw ffynnon yn bwrlymu allan o'r un agoriad y melus a'r chwerw?
12
A ddichon pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifiaid, neu winwydden, ffigys? Ni ddichon dwfr hallt chwaith roddi dwfr croyw.
13
Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? danghosed trwy ei ymarweddiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd‐dra doethineb.
14
Ond od oes gennych eiddigedd chwerw ac ymbleidiaeth yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na fyddwch gelwyddog yn erbyn y gwirionedd.
15
Nid yw y ddoethineb hon yn dyfod oddi uchod, ond daearol, anianol, dieflig yw.
16
Canys lle y mae eiddigedd ac ymbleidiaeth, yno y mae afreolaeth a phob gweithred iselwael.
17
Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlawn, mwynaidd, cymodol, gorlawn o drugaredd a ffrwythau da, heb amheuaeth, yn ddiragrith.
18
A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i'r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5