bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
James 2
James 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Fy mrodyr, na ddeliwch ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, y Gogoniant, gyda derbyn wyneb.
2
Oblegyd os daw i mewn i'ch cyfarfod ŵr a modrwy aur mewn gwisg ddisgleirwych, a dyfod i mewn hefyd ddyn tlawd mewn gwisg wael;
3
a chymeryd o honoch sylw o'r hwn sydd yn gwisgo y wisg ddisgleirwych, a dywedyd, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y dyn tlawd, Saf di yna, neu eistedd îs law fy ystol‐droed i;
4
ai nid ydych wedi gwneud gwahaniaeth yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr gyda meddyliau drwg?
5
Gwrandêwch, fy mrodyr anwyl; Oni ddewisodd Duw y tlodion yng ngolwg y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y Deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?
6
Eithr chwi a ddianrhydeddasoch y tlawd. Onid yw y rhai goludog yn arglwyddiaethu arnoch, a hwynt‐hwy sydd yn eich llusgo gerbron llysoedd?
7
Onid hwy sydd yn cablu yr Enw anrhydeddus yr hwn a elwir arnoch chwi?
8
Os, yn wir, yr ydych yn cyflawnu y gyfraith frenhinol yn ol yr Ysgrythyr, Câr dy gymydog fel ti dy hun, da yr ydych yn gwneuthur.
9
Ond os derbyn‐wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, gan gael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megys troseddwyr.
10
Canys pwy bynnag a gadwo y Gyfraith i gyd oll, ac a dripio mewn un pwynt, y mae wedi myned yn euog o'r cwbl.
11
Canys yr hwn a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, ond a leddi, yr wyt wedi myned yn droseddwr y Gyfraith.
12
Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel rhai ar gael eu barnu wrth Gyfraith rhyddid.
13
Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn na wnaeth drugaredd. Y mae trugaredd yn gorfoleddu uwch ben barn.
14
Pa lesâd yw, fy mrodyr, os dywed neb fod ganddo ffydd, ond heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon y ffydd honno ei gadw ef?
15
Os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisieu ymborth beunyddiol,
16
a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymwch ac ymborthwch; a chwi heb roddi iddynt angenrheidiau y corph, pa lesâd fydd?
17
Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw ynddi ei hun.
18
Ond dywed rhyw un, Tydi ffydd sydd gennyt, a minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd ar wahan oddi wrth dy weithredoedd, a minnau a ddanghosaf i ti trwy fy ngweithredoedd fy ffydd innau.
19
Yr wyt ti yn credu mai un yw Duw, da yr wyt yn gwneuthur: y mae y cythreuliaid hefyd yn credu ac yn arswydo?
20
Eithr a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd ar wahân oddi wrth weithredoedd yn ddiffrwyth?
21
Abraham ein tâd ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd Isaac, ei fab, ar yr allor?
22
Ti a weli fod ffydd yn cyd‐weithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd ffydd a sylweddolwyd;
23
a chyflawnwyd yr Ysgrythyr yr hon sydd yn dywedyd, A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder, a Chyfaill Duw y galwyd ef.
24
Chwi a welwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnhêir dyn, ac nid trwy ffydd yn unig.
25
Yr un modd hefyd Rahab y butain, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhâwyd hi, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?
26
Canys megys y mae y corph ar wahân a'r yspryd yn farw, felly hefyd ffydd ar wahân oddiwrth weithredoedd, marw yw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5