bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
James 4
James 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
O ba le y mae rhyfeloedd ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith, onid o hyn yma, o'ch melus‐chwantau, y rhai sydd yn milwrio yn eich aelodau?
2
Chwenychu yr ydych ac nid ydych yn cael; lladd yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn alluog i gael; ymladd a rhyfela yr ydych. Nid oes gennych am nad ydych yn gofyn.
3
Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bod yn gofyn gydag amcan drwg, fel y galloch wario yn eich melus‐chwantau.
4
Chwi odinebesau! oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill y byd y mae yn troi yn elyn i Dduw.
5
Neu a dybiwch chwi fod yr Ysgrythyr yn llefaru yn ofer? Yr Yspryd hwnnw a wnaeth efe i drigo ynom, y mae yn dyheu am danom hyd y nod i bwynt eiddigedd.
6
Eithr grâs mwy y mae yn ei roddi, o herwydd paham y dywed, Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig.
7
Ymddarostyngwch gan hynny, i Dduw, ond gwrthsefwch y Diafol, ac efe a ffy oddiwrthych.
8
Nesêwch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhêwch eich dwylaw, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi ddau‐ddyblyg eich meddwl.
9
Ymgystuddiwch, a galerwch, ac wylwch. Troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn brudd‐der.
10
Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi.
11
Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, y mae yn llefaru yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu y Gyfraith; eithr od wyt ti yn barnu y Gyfraith, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr.
12
Un yw'r Deddf‐roddwr a'r Barnwr, yr hwn a ddichon gadw a distrywio: ond pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu dy gymydog?
13
Dêwch yn awr, chwi sydd yn dywedyd, Heddyw neu yfory ni a awn i'r ddinas hon, ac a dreuliwn yno flwyddyn, ac a farchnatâwn, ac a enillwn
14
— y rhai ni wyddoch ddim am yfory. Beth yw eich einioes chwi? Canys tarth ydych chwi, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac yna yn diflannu —
15
yn lle dywedyd o honoch, Os yr Arglwydd a'i myn, ni a fyddwn byw, a ni a wnawn hyn neu hynny.
16
Eithr yn awr ymffrostio yr ydych yn eich ymhoniadau gwag: pob ymffrost o'r fath, drwg yw.
17
I'r hwn, gan hynny, sydd yn gwybod pa fodd i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, pechod yw iddo.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5