bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Mark 14
Mark 14
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
AR ben y ddau ddydd gwedy ydd oeð y Pasc, a’ gvvyl y bara croyw: a’r Archoffeirieit a’r gwyr-llē a geisiesont pa ffordd y dalient ef trwy ðichell yw ladd.
2
Eithyr dywedyt a wnaent, Nyd ar yr wyl, rac bot cynnwrf yn y popul.
3
A’ phan ytoedd ym-Bethania yn‐tuy Simon ’ohanglaf, ac ef yn eistedd wrth y vort, y deuth gwraic a chenthi vlwch o oleo spicnard gwerth‐vawr, a’ hi a dorawð y blwch, ac ei tywalldawdd am y ben ef.
4
Am hynny y sorawdd rei ynthynt ehunein, can ddywedyt, I pa beth y gwnaethpwyt y collet hyn ar oleo?
5
obleit ef allesit ei werthu er mwy na thrichant ceiniawc, a’ ei roddy ir tlotion, ac wy a ddigiesont wrthei.
6
A’r Iesu addyvot, Gedwch yddi: paam ydd ych en hei molesty? hi a weithiawdd weithred da arnaf.
7
Can ys cewch y tlodion gyd a chwi bop amser, a phan vynnoch y gellwch wneythy tvvrn da yddwynt, anyd myvi ny chewch bop amser.
8
Hyn y allawdd hon, hi a ei gwnaeth: hi a ddeuth ym‐blaen‐llaw y eliaw vy‐corph erbyn y claddedigaeth.
9
Yn wir y dywedaf wrthych, p’le bynac y precethir yr Euangel hon yn yr oll vyt, a’ hyn a wnaeth hon, a adroddir er coffa am denei.
10
Yno Iudas Iscariot, vn o’r dauddec aeth ymaith at yr Archoffeiriait, y’w vradychy ef yddwynt.
11
A’ phan glywsont hynny, llawen vu ganthwynt, ac a aðawsont roddi ariant ydd aw: am hyny y casiawð pa vodd y gallei yn gymmwys y vradychy ef.
12
A’r dydd cyntaf o’r bara croyw, pan aberthynt y Pasch, y dyvot ei ddiscipulon wrthaw, I b’le y myny i ni vyned a’ pharatoi, i vwyta ohanat y Pasc?
13
Ac anvon awnaeth ddau oei ddiscipulon, a dywedyt wrthynt, Ewch ir dinas, ac e gyvwrð dyn a chwi yn dwyn ysteneit o ddw fy r, cynlynwch ef.
14
A’ ph’le bynac ydd el ef y mywn, dywedwch wrth ’wr y tuy, Yr Athro a ddywait, Pyle y mae ’r lletuy lle y bwytawyf y Pasc mi am discipulon?
15
Ac ef a ddengys ychwy g oruchystavell vawr, yn gywair ac yn parat: ynow paratowch y ni.
16
A’ myned ymaith o’i ddiscipulon, a dyvot ir dinas, a’ chaffael megis y dywedesei ef wrthynt, a’ pharatoi ’r Pasc a wnaethant.
17
Ac yn yr hwyr y deuth ef a’r deuddec.
18
Ac val ydd oeddent yn eistedd ac yn bwyta, y dyvot yr Iesu, Yn wir y dywedaf ychwi, mae vn o honawch a’m bradycha, yr hwn ys ydd yn bwyta gyd a mi.
19
A’ dechrae tristay a wnaethant, a’ dywedyt wrthaw o bop vn, Ai myvi? ac o arall, Ai myvi?
20
Ac ef atepodd ac a ddyvot yddwynt, Sef vn o’r dauddec yr hwn ys y ’n trochi gyd a mi yn y ddescil am bradycha.
21
Can ys Map y dyn a ymaith, mal ydd escrivenir o hano: anid gwae ’r dyn hwnw, trwy ’r hwn y bradychir Map y dyn: da vysei ir dyn hwnw na anesir ef er ioet.
22
Ac val ydd oeddent wy yn bwyta, y cymerth yr Iesu vara, a’ gwedy yddaw vendithiaw y tores, ac y rhoddes yddwynt, ac y dyvot, Cymerwch, bwytewch, hwn yw vy‐corph.
23
Ac e gymerth y cwpa n, a’ gwedy iddaw ddiolch, ef ei rhoddes ydd‐wynt, ac wy oll yvesont o hanaw.
24
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Hwn yw vy‐gwaet o’r Testament newydd, yr hwn ’ellyngir tros lawer.
25
Yn wir y dywedaf wrthych, nid yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, yd y dydd hwnw ydd yfwyf ef yn newydd yn‐teyrnas Duw.
26
A gwedy yðynt ganu psalm, yð aethāt al’an i vonyth olyvar.
27
A’r Iesu a ddyvot yddwynt, Y nos hon ich rhwystrir oll o’m pleit i: can ys scrifenedic yw, Trawaf y bugail, a’ goyscerir y deuait.
28
Eithyr gwedy y cyvotwyf, ydd af o’ch blaen ir Galilaia.
29
Ac Petr a ddyvot wrthaw, a’ phe rhwystrit pawp, eithyr ny d myvi.
30
A’r Iesu a ddyvot wrthaw. Yn wir y dywedaf y ti, mae heddyw, ys ef y nos hon, cyn ny cano o’r ceiliawc ddwywaith, i’m gwedy dairgwaith.
31
Ac efe a ddyvot yn vwy o lawer, A’ phe gorvyddei arnaf varw gyd a thi, ni’th wadaf: ar vn ffynyt hefyt y dywedesont wy oll.
32
A’ gwedy y dywot wy i van a enwit Gethsemane: yno y dyvot ef wrth ei ðiscipulon. Eisteddwch yma, tra vyðwyf yn gweddiaw.
33
Ac ef a gymerawdd gyd ac ef Petr ac Iaco, ac Ioan, ac a ddechreuodd ofni, a’ brawychu,
34
ac ef a ddyvot wrthwynt, Tra thrist yw vy enait, ys yd angae: Aroswch a’ gwiliwch.
35
Ac ef aeth ychydic pellach, ac a ddygwyddawdd, ar y ddaiar, ac a weddiawdd, pan yw a’s gellit, vynet o’r awr hono heibio y wrtho.
36
Ac ef a ddyvot, Abba Dad, pop peth ys ydd alluawl i ti: treigla ymaith y cwpan hwn ywrthyf: eithyr nyt hynn a vynwy vi, anid hynn a vynych di.
37
Ac ef a ddeuth ac ei cafas wy yn cyscu, ac a ðyvyt wrth Petr, Simon, Ai cyscu ydd wyt? A ny ally‐t’ wyliaw vn awr?
38
Gwiliwch, a’ gweddiwch, rac eich mynet ym‐provedigaeth: yr yspryt yn ddiau ’sy parat, anid cnawt ys y ’wan.
39
A’ thrachefyn yð aeth ymaith, ac y weddiawð, ac a ddyvot yr vn ymadrodd.
40
Ac gwedy ymchwelyt o hanaw, ef a ei cafas wy drachefyn yn cyscu: can ys ydd oedd eu llygait yn drymion, ac ny wyddent beth a atepent ydd‐aw.
41
Ac ef a ddeuth y drydedd waith, ac a ddyvot wrthwynt, Cyscwch weithian, a’ gorphoyswch: digō yw: e ddeuth yr awr: nycha, y rhoddir Map y dyn yn‐dwylaw pechaturieit.
42
Cyfodwch: awn: wele, yr hwn a’m bradycha, ys id yn agos.
43
Ac yn y man ac ef yn ymddiddan, y dauei Iudas yr hwn oedd vn o’r dauddec, ac gyd ac ef dyrfa vawr a chleddyfae a’ phastynae oywrth yr Archoffeiriait y Gwyr‐llen, a’r Henurieit.
44
A’rhwn y bradychesei ef, a roddesei amnaid yddwynt, can ddywedyt, Pwy’n bynac a’ gusanwyf, hwnw yw: deliswch ef ac ewch ac ef ymaith yn ðirgel.
45
Ac wedy ei ddyvot ef, ef aeth ataw yn y van, ac a ddyvot vvrthavv, Rabbi, Rabbi, ac ei cusanawdd ef.
46
Ac wy a roesont ei dwylo arnaw, ac ei daliesont.
47
Ac vn o’r ei oedd yn sefyll yno, a dynnawð gleddyf, ac a drawodd ’was yr Archoffeiriat, ac a dorrawdd ei glust ymaith.
48
A’r Iesu atepawdd ac a ddyvot wrthwynt, Chwi ddaethoch allan megis at leitr, a chleðyfe ac a phastinae im dal ha i.
49
Ydd oeddwn paunydd gyd a chwi yn traethy‐dysc yn y Templ, ac ny’m daliesoch: eithyr hynn ys ydd er cyflawny ’r Scrythurae.
50
Yno wy y gadawsant ef, ac a giliesont bawp.
51
Ac ydd oedd vn gwr ieuanc, wedyr wiscaw a lliain ar ei gorph noeth, yn ei gynlyn ef, a’r gwyr ieuainc y daliesant ef.
52
Ac ef a adawodd ei liain vvisc, ac a giliawdd y wrthwynt yn noeth.
53
Yno y ducesont yr Iesu at yr Archoffeiriat, ac ato ef y deuth yr oll Archoffeiriait, a’r Henurieit, a’r Gwyr-llen.
54
Ac Petr oedd yn y ddylyn ef o hir‐bell, yd y mewn llys yr Archoffeiriat, ac a eisteddawdd gyd a’r gwasanaethwyr, yn yndwymo wrth y tan.
55
A’r Archoffeirieit a’r oll Senedd oedd yn caisiaw testiolaeth yn erbyn yr Iesu, er i roi ef i varwolaeth, ac ny’s cawsant.
56
Can ys llawer a dducsont gau testiolaeth yn y erbyn ef, eythyr nyd oedd y testiolaethae wy yn gysson.
57
Yno y cyfodes ’r ei, ac a dducesont gau testiolaeth yn ei erbyn ef, can ðywedyt,
58
Ny ni y clywsam ef yn dywedyt, Mi a ðinistriaf y templ hon o waith llaw, ac o vewn tri‐die yr adailiaf arall, nid o waith llaw.
59
Ac eto nyd oedd y testiolaeth wy gyfun chvvaith.
60
Yno y cyfodes yr Archoffeiriat yn ei cenol wy, ac a ’ovynodd i’r Iesu, can ddywedyt, Anyd atepy di ddim? paam y mae yr ei hynn yn testolaethy yn dy erbyn?
61
Ac ef a dawodd, ac nyd atepawdd ddim. Trachef y n y gofynawdd yr Archoffeiriat yddaw, ac ydyvot wrthaw, Ai ti Christ Map y Bendicedic?
62
A’r Iesu a ddyvot, Mi vi yw ef, a’ chewch weled Map y dyn yn eistedd ar ddehau gallu Dyvv, ac yn dawot yn wybrennae’r nef.
63
Yno ’r Archoffeiriat a rwygawdd ei ddillat ac a ddyuot, Paam y rait y ni mwy wrth testiō?
64
Clywsoch y cabledigaeth: peth a dyb ig w‐chwi? Ac wynt oll a varnesont y vot ef yn euawc i angae.
65
A’r ei a ddechreuawdd poeri arnaw, a chuddiaw ei wynep, a’ ei ddyrnodiaw, a’ dywedyt wrthaw, Prophwyta. A’ ringilliait y trawsont ef a ei gwiail.
66
Ac val yr oedd Petr yn y nauadd iso d, y deuth vn o vorynion yr Archoffeiriat.
67
A’ phan ganvu hi Petr yn ym dwymo, hi a edrychodd arnaw, ac a ddyvot, Ti the hefyt oeddyt gyd a Iesu o Nazaret.
68
Ac ef a wadawdd, gan ddywedyt, Nyd adwaen i ef, ac ny ’wn beth dwyt yn ei ddywedyt. Yno ydd aeth ef allan ir rhacnauadd, ac a ganawdd y celiawc.
69
Yno pan welawdd morwyn ef drachef y n, hi a ddechreuawdd ddywedyt wrth yr ei oedd yn sefyll yno, Hwn yw vn a hanwynt.
70
Ac ef a ym wadawdd dracyef y n: ac ychydic gwedy, yr ei oedd yn sefyll yno, a ðywedesont trachefyn wrth Petr, Yn wir ydd wyt vn o hanwynt: can ys Galileat wyt, a’th lediaith ys y gynhebic.
71
Ac yntef a ddechreawdd dynghedy, a’ thyngu, gan ddyvvedyt, Nyd adwaen i’r dyn yr ych yn ei ddywedyt.
72
A’r ailwaith y canodd y ceiliawc, ac y cofiawdd Petr y gair a ddywedesei’r Iesu wrthaw, Cyn canu o’r ceiliawc ddwywaith, im gwedy dair-gwaith, ac wrth adveddylied, ef a wylawdd.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16