bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Acts 11
Acts 11
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
1
Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod y Cenhedloedd hefyd wedi derbyn Gair Duw.
2
Pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd plaid yr enwaediad ddadlau ag ef,
3
a dweud, "Buost yn ymweld dynion dienwaededig, ac yn cydfwyta hwy."
4
Dechreuodd Pedr adrodd yr hanes wrthynt yn ei drefn.
5
"Yr oeddwn i," meddai, "yn nhref Jopa yn gweddo, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf.
6
Syllais i mewn iddi a cheisio amgyffred; gwelais anifeiliaid y ddaear a'r bwystfilod a'r ymlusgiaid ac adar y awyr.
7
A chlywais lais yn dweud wrthyf, 'Cod, Pedr, lladd a bwyta.'
8
Ond dywedais, 'Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.'
9
Atebodd llais o'r nef eilwaith, 'Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti 'i alw'n halogedig.'
10
Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn l i'r nef.
11
Ac yn union dyma dri dyn yn dod a sefyll wrth y tu375? lle'r oeddem, wedi eu hanfon ataf o Gesarea.
12
A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i du375?'r dyn hwnnw.
13
Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei du375? ac yn dweud, 'Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr;
14
fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.'
15
Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Gln arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.
16
Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ' du373?r y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi 'r Ysbryd Gln.'
17
Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu rhwystro Duw?"
18
Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, "Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd."
19
Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r Gair wrth neb ond Iddewon yn unig.
20
Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu.
21
Yr oedd llaw'r Arglwydd gyda hwy, a mawr oedd y nifer a ddaeth i gredu a throi at yr Arglwydd.
22
Daeth yr hanes amdanynt i glustiau'r eglwys oedd yn Jerwsalem ac anfonasant Barnabas allan i fynd i Antiochia.
23
Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon;
24
achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Gln ac o ffydd. A chwanegwyd tyrfa niferus i'r Arglwydd.
25
Yna fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael daeth ag ef i Antiochia.
26
Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf.
27
Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia,
28
a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius.
29
Penderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt, gyfrannu, yn l fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cyd-gredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea.
30
Gwnaethant hynny, ac anfon eu cyfraniad at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28