bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Acts 14
Acts 14
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
Yn Iconium eto, aethant i mewn i synagog yr Iddewon a llefaru yn y fath fodd nes i liaws mawr o Iddewon a Groegiaid gredu.
2
Ond dyma'r Iddewon a wrthododd gredu yn cyffroi meddyliau'r Cenhedloedd, a'u gwyrdroi yn erbyn y credinwyr.
3
Treuliasant, felly, gryn amser yn llefaru'n hy yn yr Arglwydd, a thystiodd yntau i air ei ras trwy beri gwneud arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy.
4
Rhannwyd pobl y ddinas; yr oedd rhai gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion.
5
Pan wnaed cynnig gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd 'u harweinwyr, i'w camdrin a'u llabyddio,
6
wedi cael achlust o'r peth ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch,
7
ac yno yr oeddent yn cyhoeddi'r newydd da.
8
Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn 'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded.
9
Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iachu,
10
a dywedodd llais uchel, "Saf yn unionsyth ar dy draed." Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded.
11
Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: "Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion";
12
a galwasant Barnabas yn Zeus, a Paul yn Hermes, gan mai ef oedd y siaradwr blaenaf.
13
Yr oedd teml Zeus y tu allan i'r ddinas, a daeth yr offeiriad theirw a thorchau at y pyrth gan fwriadu offrymu aberth gyda'r tyrfaoedd.
14
Pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Paul, am hyn, rhwygasant eu dillad, a neidio allan i blith y dyrfa dan weiddi,
15
"Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r mr a phopeth sydd ynddynt.
16
Yn yr oesoedd a fu, goddefodd ef i'r holl genhedloedd rodio yn eu ffyrdd eu hunain.
17
Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd."
18
Ond er dweud hyn, o'r braidd yr ataliasant y tyrfaoedd rhag offrymu aberth iddynt.
19
Daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium; ac wedi iddynt berswadio'r tyrfaoedd, lluchiasant gerrig at Paul, a'i lusgo allan o'r ddinas, gan dybio ei fod wedi marw.
20
Ond ffurfiodd y disgyblion gylch o'i gwmpas, a chododd yntau ac aeth i mewn i'r ddinas. Trannoeth, aeth ymaith gyda Barnabas i Derbe.
21
Buont yn cyhoeddi'r newydd da i'r ddinas honno, ac wedi gwneud disgyblion lawer, dychwelsant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia,
22
a chadarnhau eneidiau'r disgyblion a'u hannog i lynu wrth y ffydd, gan ddweud, "Trwy lawer o gyfyngderau yr ydym i fynd i mewn i deyrnas Dduw."
23
Penodasant iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a'u cyflwyno, ar l gweddo ac ymprydio, i'r Arglwydd yr oeddent wedi credu ynddo.
24
Wedi iddynt deithio trwy Pisidia, daethant i Pamffylia;
25
ac wedi llefaru'r gair yn Perga, aethant i lawr i Atalia,
26
ac oddi yno hwyliasant i Antiochia, i'r fan lle'r oeddent wedi eu cyflwyno i ras Duw at y gwaith yr oeddent wedi ei gyflawni.
27
Wedi iddynt gyrraedd, cynullasant yr eglwys ynghyd ac adrodd gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud gyda hwy, ac fel yr oedd wedi agor drws ffydd i'r Cenhedloedd.
28
A threuliasant gryn dipyn o amser gyda'r disgyblion.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28