bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Acts 4
Acts 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
Tra oeddent yn llefaru wrth y bobl, daeth yr offeiriaid a phrif swyddog gwarchodlu'r deml a'r Sadwceaid ar eu gwarthaf,
2
yn flin am eu bod hwy'n dysgu'r bobl ac yn cyhoeddi ynglu375?n Iesu yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.
3
Cymerasant afael arnynt a'u rhoi mewn dalfa hyd drannoeth, oherwydd yr oedd hi'n hwyr eisoes.
4
Ond daeth llawer o'r rhai oedd wedi clywed y gair yn gredinwyr, ac aeth eu nifer i gyd yn rhyw bum mil.
5
Trannoeth bu cyfarfod o lywodraethwyr a henuriaid ac ysgrifenyddion yr Iddewon yn Jerwsalem.
6
Yr oedd Annas yr archoffeiriad yno, a Caiaffas ac Ioan ac Alexander a phawb oedd o deulu archoffeiriadol.
7
Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, "Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?"
8
Yna, wedi ei lenwi 'r Ysbryd Gln, dywedodd Pedr wrthynt: "Lywodraethwyr y bobl, a henuriaid,
9
os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iachu,
10
bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.
11
Iesu yw 'Y maen a ddiystyrwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn faen y gongl.'
12
Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo."
13
Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu. Yr oeddent yn sylweddoli hefyd eu bod hwy wedi bod gydag Iesu.
14
Ac wrth weld y dyn oedd wedi ei iachu yn sefyll gyda hwy, nid oedd ganddynt ddim ateb.
15
Ac wedi gorchymyn iddynt fynd allan o'r llys, dechreusant ymgynghori 'i gilydd.
16
"Beth a wnawn," meddent, "'r dynion hyn? Oherwydd y mae'n amlwg i bawb sy'n preswylio yn Jerwsalem fod gwyrth hynod wedi digwydd trwyddynt hwy, ac ni allwn ni wadu hynny.
17
Ond rhag taenu'r peth ymhellach ymhlith y bobl, gadewch inni eu rhybuddio nad ydynt i lefaru mwyach yn yr enw hwn wrth neb o gwbl."
18
Galwasant hwy i mewn, a gorchymyn nad oeddent i siarad na dysgu o gwbl yn enw Iesu.
19
Ond atebodd Pedr ac Ioan hwy: "A yw'n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi.
20
Ni allwn ni dewi sn am y pethau yr ydym wedi eu gweld a'u clywed."
21
Ar l eu rhybuddio ymhellach gollyngodd y llys hwy'n rhydd, heb gael dim modd i'w cosbi, oherwydd y bobl; oblegid yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi digwydd.
22
Yr oedd y dyn y gwnaethpwyd y wyrth iachaol hon arno dros ddeugain mlwydd oed.
23
Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt.
24
Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: "O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r mr a phob peth sydd ynddynt,
25
ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Gln yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni: 'Pam y terfysgodd y Cenhedloedd ac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer?
26
Safodd brenhinoedd y ddaear, ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghyd yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.'
27
Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd 'r Cenhedloedd a phobloedd Israel,
28
i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.
29
Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i'th weision lefaru dy air phob hyder,
30
a thithau yn estyn dy law i beri iachd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy Was sanctaidd, Iesu."
31
Ac wedi iddynt weddo, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll 'r Ysbryd Gln, a llefarasant air Duw yn hy.
32
Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.
33
nerth mawr yr oedd yr apostolion yn rhoi eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll.
34
Yn wir, nid oedd neb anghenus yn eu plith, oherwydd byddai pawb oedd yn berchenogion tiroedd neu dai yn eu gwerthu, a dod 'r tl am y pethau a werthid,
35
a'i roi wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb yn l fel y byddai angen pob un.
36
Yr oedd Joseff, a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (sef, o'i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth,
37
yn berchen darn o dir, a gwerthodd ef, a daeth 'r arian a'i roi wrth draed yr apostolion.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28