bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Acts 9
Acts 9
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
1
Yr oedd Saul yn dal i chwythu bygythion angheuol yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, ac fe aeth at yr archoffeiriad
2
a gofyn iddo am lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os byddai'n cael hyd i rywrai o bobl y Ffordd, yn wu375?r neu'n wragedd, y gallai eu dal a dod hwy i Jerwsalem.
3
Pan oedd ar ei daith ac yn agosu at Ddamascus, yn sydyn fflachiodd o'i amgylch oleuni o'r nef.
4
Syrthiodd ar lawr, a chlywodd lais yn dweud wrtho, "Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?"
5
Dywedodd yntau, "Pwy wyt ti, Arglwydd?" Ac ebe'r llais, "Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
6
Ond cod, a dos i mewn i'r ddinas, ac fe ddywedir wrthyt beth sy raid iti ei wneud."
7
Yr oedd y dynion oedd yn cyddeithio ag ef yn sefyll yn fud, yn clywed y llais ond heb weld neb.
8
Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus.
9
Bu am dridiau heb weld, ac ni chymerodd na bwyd na diod.
10
Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, "Ananias." Dywedodd yntau, "Dyma fi, Arglwydd."
11
Ac meddai'r Arglwydd wrtho, "Cod, a dos i'r stryd a elwir Y Stryd Union, a gofyn yn nhu375? Jwdas am ddyn o Darsus o'r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddo;
12
ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ddyn o'r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno i roi ei olwg yn l iddo."
13
Atebodd Ananias, "Arglwydd, yr wyf wedi clywed gan lawer am y dyn hwn, faint o ddrwg y mae wedi ei wneud i'th saint di yn Jerwsalem.
14
Yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddi wrth y prif offeiriaid i ddal pawb sy'n galw ar dy enw di."
15
Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, "Dos di; llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, a cherbron plant Israel.
16
Dangosaf fi iddo faint sy raid iddo'i ddioddef dros fy enw i."
17
Aeth Ananias ymaith ac i mewn i'r tu375?, a rhoddodd ei ddwylo arno a dweud, "Y brawd Saul, yr Arglwydd sydd wedi yr un a ymddangosodd iti ar dy ffordd yma er mwyn iti gael dy olwg yn l, a'th lenwi 'r Ysbryd Gln."
18
Ar unwaith syrthiodd rhywbeth fel cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn l. Cododd, ac fe'i bedyddiwyd,
19
a chymerodd luniaeth ac ymgryfhaodd. Bu gyda'r disgyblion oedd yn Namascus am rai dyddiau,
20
ac ar unwaith dechreuodd bregethu Iesu yn y synagogau, a chyhoeddi mai Mab Duw oedd ef.
21
Yr oedd pawb oedd yn ei glywed yn rhyfeddu. "Onid dyma'r dyn," meddent, "a wnaeth ddifrod yn Jerwsalem ar y rhai sy'n galw ar yr enw hwn? Ac onid i hyn yr oedd wedi dod yma, sef i fynd hwy yn rhwym at y prif offeiriaid?"
22
Ond yr oedd Saul yn ymrymuso fwyfwy, ac yn drysu'r Iddewon oedd yn byw yn Namascus wrth brofi mai Iesu oedd y Meseia.
23
Fel yr oedd dyddiau lawer yn mynd heibio, cynllwyniodd yr Iddewon i'w ladd.
24
Ond daeth eu cynllwyn yn hysbys i Saul. Yr oeddent hefyd yn gwylio'r pyrth ddydd a nos er mwyn ei ladd ef.
25
Ond cymerodd ei ddisgyblion ef yn y nos a'i ollwng i lawr y mur, gan ei ostwng mewn basged.
26
Wedi iddo gyrraedd Jerwsalem ceisiodd ymuno 'r disgyblion; ond yr oedd ar bawb ei ofn, gan nad oeddent yn credu ei fod yn ddisgybl.
27
Ond cymerodd Barnabas ef a mynd ag ef at yr apostolion, ac adroddodd wrthynt fel yr oedd wedi gweld yr Arglwydd ar y ffordd, ac iddo siarad ag ef, ac fel yr oedd wedi llefaru yn hy yn Namascus yn enw Iesu.
28
Bu gyda hwy, yn mynd i mewn ac allan yn Jerwsalem,
29
gan lefaru'n hy yn enw yr Arglwydd; byddai'n siarad ac yn dadlau gyda'r Iddewon Groeg eu hiaith, ond yr oeddent hwy'n ceisio'i ladd ef.
30
Pan ddaeth y credinwyr i wybod, aethant ag ef i lawr i Gesarea, a'i anfon ymaith i Darsus.
31
Yr oedd yr eglwys yn awr, drwy holl Jwdea a Galilea a Samaria, yn cael heddwch. Yr oedd yn cryfhau, a thrwy rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Gln yn mynd ar gynnydd.
32
Pan oedd Pedr yn mynd ar daith ac yn galw heibio i bawb, fe ddaeth i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda.
33
Yno cafodd ryw ddyn o'r enw Aeneas, a oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei fatras, wedi ei barlysu.
34
Dywedodd Pedr wrtho, "Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iachu di; cod, a chyweiria dy wely." Ac fe gododd ar unwaith.
35
Gwelodd holl drigolion Lyda a Saron ef, a throesant at yr Arglwydd.
36
Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau.
37
Yr adeg honno fe glafychodd, a bu farw. Golchasant ei chorff a'i roi i orwedd mewn ystafell ar y llofft.
38
A chan fod Lyda yn agos i Jopa, pan glywodd y disgyblion fod Pedr yno, anfonasant ddau ddyn ato i ddeisyf arno, "Tyrd drosodd atom heb oedi."
39
Cododd Pedr ac aeth gyda hwy. Wedi iddo gyrraedd, aethant ag ef i fyny i'r ystafell, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos y crysau a'r holl ddillad yr oedd Dorcas wedi eu gwneud pan oedd gyda hwy.
40
Ond trodd Pedr bawb allan, a phenliniodd a gweddo, a chan droi at y corff meddai, "Tabitha, cod." Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Pedr, cododd ar ei heistedd.
41
Rhoddodd yntau ei law iddi a'i chodi, a galwodd y saint a'r gwragedd gweddwon, a'i chyflwyno iddynt yn fyw.
42
Aeth y peth yn hysbys drwy Jopa i gyd, a daeth llawer i gredu yn yr Arglwydd.
43
Arhosodd Pedr am beth amser yn Jopa gyda rhyw farcer o'r enw Simon.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28