bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Acts 15
Acts 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
1
Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: "Os nad enwaedir arnoch yn l defod Moses, ni ellir eich achub."
2
A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglu375?n 'r cwestiwn yma.
3
Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dredigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr.
4
Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy.
5
Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, "Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses."
6
Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma.
7
Ar l llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: "Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu.
8
Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Gln yr un fath ag i ninnau;
9
ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd.
10
Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn?
11
Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd."
12
Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.
13
Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, "Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.
14
Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw.
15
Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno hyn, fel y mae'n ysgrifenedig:
16
'"Ar l hyn dychwelaf, ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd, ailadeiladaf ei hadfeilion, a'i hatgyweirio,
17
fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill, a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt," medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn
18
yn hysbys erioed.'
19
Felly fy marn i yw na ddylem boeni'r rhai o blith y Cenhedloedd sy'n troi at Dduw,
20
ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed.
21
Oherwydd y mae gan Moses, er yr oesau cyntaf, rai sy'n ei bregethu ym mhob tref, ac fe'i darllenir yn y synagogau bob Saboth."
22
Yna penderfynodd yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd 'r holl eglwys, ddewis gwu375?r o'u plith a'u hanfon i Antiochia gyda Paul a Barnabas, sef Jwdas, a elwid Barsabas, a Silas, gwu375?r blaenllaw ymhlith y credinwyr.
23
Rhoesant y llythyr hwn iddynt i fynd yno: "Y brodyr, yn apostolion a henuriaid, at y credinwyr o blith y Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Cilicia, cyfarchion.
24
Oherwydd inni glywed fod rhai ohonom ni wedi'ch tarfu 'u geiriau, ac ansefydlogi eich meddyliau, heb i ni eu gorchymyn,
25
yr ydym wedi penderfynu'n unfryd ddewis gwu375?r a'u hanfon atoch gyda'n cyfeillion annwyl, Barnabas a Paul,
26
dynion sydd wedi cyflwyno eu bywydau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist.
27
Felly yr ydym yn anfon Jwdas a Silas, a byddant hwy'n mynegi yr un neges ar lafar.
28
Penderfynwyd gan yr Ysbryd Gln a chennym ninnau beidio gosod arnoch ddim mwy o faich na'r pethau angenrheidiol hyn:
29
ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel."
30
Anfonwyd hwy, felly, a daethant i lawr i Antiochia, ac wedi galw'r gynulleidfa ynghyd, cyflwynwyd y llythyr.
31
Wedi ei ddarllen, yr oeddent yn llawen ar gyfrif yr anogaeth yr oedd yn ei rhoi.
32
Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau.
33
Wedi iddynt dreulio peth amser fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd.
34
[{cf15i Ond penderfynodd Silas aros yno.}]
35
Arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu gair yr Arglwydd, ynghyd llawer eraill.
36
Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, "Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld 'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt."
37
Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy;
38
ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio hwy.
39
Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus;
40
ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd.
41
A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28