bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Amos 1
Amos 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 2 →
1
Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn.
2
Dywedodd, "Rhua'r ARGLWYDD o Seion, a chwyd ei lef o Jerwsalem; galara porfeydd y bugeiliaid, a gwywa pen Carmel."
3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Damascus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt ddyrnu Gilead llusg-ddyrnwyr haearn,
4
anfonaf dn ar du375? Hasael, ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.
5
Drylliaf farrau pyrth Damascus, a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen, a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden; a chaethgludir pobl Syria i Cir," medd yr ARGLWYDD.
6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Gasa, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i'w caethiwo yn Edom,
7
anfonaf dn ar fur Gasa, ac fe ddifa ei cheyrydd.
8
Torraf ymaith y trigolion o Asdod, a pherchen y deyrnwialen o Ascalon; trof fy llaw yn erbyn Ecron, a difodir gweddill y Philistiaid," medd yr Arglwydd DDUW.
9
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Tyrus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom, ac anghofio cyfamod brawdol,
10
anfonaf dn ar fur Tyrus, ac fe ddifa ei cheyrydd."
11
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Edom, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddo ymlid ei frawd chleddyf, a mygu ei drugaredd, a bod ei lid yn rhwygo'n barhaus a'i ddigofaint yn dal am byth,
12
anfonaf dn ar Teman, ac fe ddifa geyrydd Bosra."
13
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau'r Ammoniaid, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead, er mwyn ehangu eu terfynau,
14
cyneuaf dn ar fur Rabba, ac fe ddifa ei cheyrydd bloedd ar ddydd brwydr, a chorwynt ar ddydd tymestl.
15
A chaethgludir eu brenin, ef a'i swyddogion i'w ganlyn," medd yr ARGLWYDD.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9