bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Amos 7
Amos 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 8 →
1
Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma haid o locustiaid yn codi ar ddechrau tyfiant yr adladd, sef y cynhaeaf ar l torri cnwd y brenin.
2
Pan oeddent yn gorffen bwyta gwellt y ddaear, dywedais, "O Arglwydd DDUW, maddau! Sut y saif Jacob, ac yntau mor fychan?"
3
Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn. "Ni fydd hyn," medd yr ARGLWYDD.
4
Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma'r Arglwydd DDUW yn galw am farn trwy dn, a hwnnw'n difa'r dyfnder mawr, ac yn ysu'r tir hefyd.
5
A dywedais, "O Arglwydd DDUW, paid! Sut y saif Jacob, ac yntau mor fychan?"
6
Ac edifarhaodd yr ARGLWYDD. "Ni fydd hyn chwaith," medd yr Arglwydd DDUW.
7
Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law.
8
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Beth a weli, Amos?" Atebais innau, "Llinyn plwm." A dywedodd yr Arglwydd, "Wele fi'n gosod llinyn plwm yng nghanol fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto.
9
Difodir uchelfeydd Isaac a distrywir cysegrleoedd Israel; a chodaf gleddyf yn erbyn tu375? Jeroboam."
10
Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, "Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tu375? Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau.
11
Oherwydd fel hyn y dywed Amos: 'Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.'"
12
A dywedodd Amaseia wrth Amos, "Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno.
13
Paid phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth."
14
Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, "Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor;
15
ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, 'Dos i broffwydo i'm pobl Israel.'
16
Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD. Yr wyt ti'n dweud, 'Paid phroffwydo yn erbyn Israel, a phaid llefaru yn erbyn tu375? Isaac.'
17
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas; fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf; rhennir dy dir 'r llinyn; byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.'"
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9