bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Amos 2
Amos 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 3 →
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Moab, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddo losgi'n galch esgyrn brenin Edom,
2
anfonaf dn ar Moab, ac fe ddifa geyrydd Cerioth. Bydd farw Moab yng nghanol terfysg, yng nghanol banllefau a su373?n utgorn.
3
Torraf ymaith y pennaeth o'i chanol, a lladdaf ei holl swyddogion gydag ef," medd yr ARGLWYDD.
4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Jwda, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD, a pheidio chadw ei ddeddfau, a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddau a ddilynwyd gan eu hynafiaid,
5
anfonaf dn ar Jwda, ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem."
6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Israel, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt werthu'r cyfiawn am arian a'r anghenog am br o sandalau;
7
am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwch ac yn ystumio ffordd y gorthrymedig; am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances, fel bod halogi ar fy enw sanctaidd;
8
am eu bod yn gorwedd ar ddillad gwystl yn ymyl pob allor; am eu bod yn yfed gwin y ddirwy yn nhu375? eu Duw.
9
"Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau, a'i uchder fel uchder cedrwydd a'i gryfder fel y derw; dinistriais ei ffrwyth oddi arno a'i wreiddiau oddi tano.
10
Myfi hefyd a'ch dygodd o'r Aifft, a'ch arwain am ddeugain mlynedd yn yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad.
11
Codais rai o'ch meibion yn broffwydi, a rhai o'ch llanciau yn Nasareaid. Onid fel hyn y bu, bobl Israel?" medd yr ARGLWYDD.
12
"Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin, a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, 'Peidiwch phroffwydo.'
13
"Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr, fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu.
14
Derfydd am ddihangfa i'r cyflym, ac ni ddeil y cryf yn ei gryfder, ac ni all y rhyfelwr ei waredu ei hun;
15
ni saif y saethwr bwa; ni all y cyflym ei droed ei achub ei hun, na'r marchog ei waredu ei hun;
16
bydd y dewraf ei galon o'r rhyfelwyr yn ffoi yn noeth yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9