bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Amos 5
Amos 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 6 →
1
Clywch y gair hwn a lefaraf yn eich erbyn; galarnad yw, du375? Israel:
2
"Y mae'r wyryf Israel wedi syrthio, ac ni chyfyd eto; gadawyd hi ar lawr, heb neb i'w chodi."
3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw wrth du375? Israel: "Y ddinas a anfonodd fil a gaiff gant yn l; a'r un a anfonodd gant a gaiff ddeg yn l."
4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth du375? Israel: "Ceisiwch fi, a byddwch fyw;
5
peidiwch cheisio Bethel, nac ymweld Gilgal, na theithio i Beerseba; oherwydd yn wir fe gaethgludir Gilgal, ac ni bydd Bethel yn ddim."
6
Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byddwch fyw rhag iddo ruthro fel tn drwy du375? Joseff a'i ddifa, heb neb i'w ddiffodd ym Methel
7
chwi sy'n troi barn yn wermod, ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr.
8
Ef a wnaeth Pleiades ac Orion; ef sy'n troi tywyllwch yn fore, ac yn tywyllu'r dydd yn nos. Ef sy'n galw ar ddyfroedd y mr, ac yn eu tywallt ar wyneb y tir; yr ARGLWYDD yw ei enw.
9
Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf, a daw distryw ar y gaer.
10
Y maent yn casu'r un a wna farn yn y porth, ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.
11
Felly, am ichwi sathru'r tlawd, a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith er ichwi godi tai o gerrig nadd, ni chewch fyw ynddynt; er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd, ni chewch yfed eu gwin.
12
Canys gwn mor niferus yw'ch troseddau ac mor fawr yw'ch pechodau chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr, ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.
13
Felly tawed y doeth ar y fath amser, canys amser drwg ydyw.
14
Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni, fel y byddwch fyw ac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi, fel yr ydych yn honni ei fod.
15
Casewch ddrygioni, carwch ddaioni, gofalwch am farn yn y porth; efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, wrth weddill Joseff.
16
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd: "Ym mhob sgwr fe fydd wylo, ym mhob stryd fe ddywedant, 'Och! Och!' Galwant ar y llafurwr i alaru ac ar y galarwyr i gwynfan.
17
Bydd wylofain ym mhob gwinllan, oherwydd mi af trwy dy ganol," medd yr ARGLWYDD.
18
Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD! Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi? Tywyllwch fydd, nid goleuni;
19
fel pe bai dyn yn dianc rhag llew, ac arth yn ei gyfarfod; neu'n cyrraedd y tu375? ac yn rhoi ei law ar y pared, a neidr yn ei frathu.
20
Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni; caddug, heb lygedyn golau ynddo?
21
"Yr wyf yn casu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau; nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.
22
Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau, ni allaf eu derbyn; ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.
23
Ewch su373?n eich caneuon oddi wrthyf; ni wrandawaf ar gainc eich telynau.
24
Ond llifed barn fel dyfroedd a chyfiawnder fel afon gref.
25
"A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, du375? Israel?
26
Fe gludwch ymaith eich delwau, a wnaethoch i chwi eich duw Saccuth, a Caiwan eich seren-dduw
27
oherwydd caethgludaf chwi y tu hwnt i Ddamascus," medd yr ARGLWYDD; Duw'r Lluoedd yw ei enw.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9