bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Amos 9
Amos 9
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
1
Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud, "Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd, a maluria hwy ar eu pennau i gyd; y rhai a adewir, fe'u lladdaf 'r cleddyf; ni ffy yr un ohonynt ymaith, ni ddianc yr un ohonynt.
2
Pe baent yn cloddio hyd at Sheol, fe dynnai fy llaw hwy oddi yno; pe baent yn dringo i'r nefoedd, fe'u dygwn i lawr oddi yno.
3
Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel, fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno; pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y mr, byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.
4
Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud, fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno; cadwaf fy ngolwg arnynt, er drwg ac nid er da."
5
Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd ef sy'n cyffwrdd 'r ddaear, a hithau'n toddi, a'i holl drigolion yn galaru; bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil, ac yn gostwng fel afon yr Aifft;
6
ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoedd ac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear; ef sy'n galw ar ddyfroedd y mr ac yn eu tywallt dros y tir; yr ARGLWYDD yw ei enw.
7
"Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi, O bobl Israel?" medd yr ARGLWYDD. "Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft, a'r Philistiaid o Cafftor a'r Syriaid o Cir?
8
Wele, y mae llygaid yr Arglwydd DDUW ar y deyrnas bechadurus; fe'i dinistriaf oddi ar wyneb y ddaear; eto ni ddinistriaf du375? Jacob yn llwyr," medd yr ARGLWYDD.
9
"Wele, yr wyf yn gorchymyn, ac ysgydwaf du375? Israel ymhlith yr holl genhedloedd fel ysgwyd gogr, heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear.
10
Lleddir holl bechaduriaid fy mhobl 'r cleddyf, y rhai sy'n dweud, 'Ni chyffwrdd dinistr ni, na dod yn agos atom.'
11
"Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd; trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion, a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt,
12
fel y gallant goncro gweddill Edom a'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt," medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn.
13
"Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi, a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had; bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd, a phob bryn yn llifo ohono.
14
Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel, ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt; plannant winllannoedd ac yfed eu gwin, palant erddi a bwyta'u cynnyrch.
15
Fe'u plannaf yn eu gwlad, ac ni ddiwreiddir hwy byth eto o'r tir a rois iddynt," medd yr ARGLWYDD dy Dduw.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9